Mater - cyfarfodydd

Report on Objections to the Statutory Notice on Lowering the Admission Age for Ysgol Henblas

Cyfarfod: 17/06/2019 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 11)

11 Gostwng Oed mynediad Ysgol Henblas pdf eicon PDF 382 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cadarnhau’r cynnig i ostwng oed mynediad yn Ysgol Henblas, i fod yn weithredol o 31 Awst, 2019.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw'r Pwyllgor Gwaith adroddiad y Pennaeth Dysgu ar yr ymateb i'r rhybudd statudol o'r cynnig i ostwng oedran mynediad Ysgol Henblas.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio dros Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid, yn unol â Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, y Cod Trefniadaeth 011/2018 ac yn dilyn cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 29 Ebrill, 2019 i ostwng oed mynediad Ysgol Henblas i dderbyn disgyblion ar sail rhan-amser o'r mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn 3 oed, i ddod i rym o 31 Awst, 2019, bod y rhybudd statudol yn hyn o beth wedi cael ei gyhoeddi ar 13 Mai, 2019 ac yn dilyn hynny, cynhaliwyd cyfnod gwrthwynebu statudol 28 diwrnod ar y cynnig. Yn sgil y ffaith na chafwyd unrhyw wrthwynebiadau, dywedodd yr Aelod Portffolio, mai'r argymhelliad yw bod y Pwyllgor Gwaith yn cadarnhau'r cynnig yn derfynol.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Dysgu na dderbyniwyd unrhyw sylwadau negyddol yn ystod yr ymgynghoriad statudol na'r cyfnod gwrthwynebu statudol. Mae perthynas gref rhwng yr ysgol a'r cylch sy'n darparu sylfaen dda ar gyfer cydweithio yn y dyfodol. Ni ragwelir unrhyw effeithiau ar gydraddoldeb ac mae'r staff yn gefnogol i'r cynnig ac yn barod i edrych ar yr opsiynau o ran rhoi gofal 10 awr mewn ffordd sy'n gyfleus i rieni.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cynnig i ostwng oed mynediad Ysgol Henblas, i fod yn weithredol o 31 Awst, 2019.