Mater - cyfarfodydd

CIW Inspection of Children's Services on Anglesey - Improvement Plan - Quarterly Progress Report

Cyfarfod: 17/06/2019 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 12)

12 Adroddiad Cynnydd ar y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd pdf eicon PDF 464 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cadarnhau bod y Pwyllgor Gwaith yn fodlon â chyflymder y cynnydd a’r gwelliannau hyd yma o fewn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw'r Pwyllgor Gwaith adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth ar gynnydd a gwelliannau hyd yma o fewn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

 

Amlygodd y Cadeirydd a'r Aelod Portffolio dros Wasanaethau Cymdeithasol y wybodaeth ystadegol a gynhwysir yn yr adroddiad sy'n rhoi tystiolaeth bendant o'r perfformiad gwell yn Chwarter 4 2018/19 yn erbyn y dangosyddion gwasanaeth allweddol a gofnodwyd, ac sydd hefyd yn adlewyrchu'r newidiadau a'r datblygiadau cadarnhaol sy'n digwydd o fewn y gwasanaeth cyfan. Mae'r Gwasanaeth bellach yn gweithio i Gynllun Datblygu Gwasanaeth thematig newydd 3 blynedd, sydd wedi disodli'r Cynllun Gwella Gwasanaeth blaenorol. Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, wrth ystyried yr adroddiad, wedi cydnabod y cynnydd a wnaed ac wedi llongyfarch y Gwasanaeth ar hynny ac wedi cymeradwyo ffurfio Panel Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol a fydd yn gweld yr un lefel o graffu ar Wasanaethau Oedolion â’r Gwasanaethau Plant.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd at y cwynion a'r sylwadau cadarnhaol a dderbyniwyd gan y gwasanaeth gyda Chwarter 4 yn gweld gostyngiad yn nifer y cwynion Cam 1 tra bod 12 o ganmoliaethau wedi'u cofnodi yn ystod y chwarter. Yn ystod y flwyddyn, derbyniodd y Gwasanaeth 30 cwyn Cam 1 a 2 gŵyn Cam 2; nid oedd unrhyw ymchwiliadau gan yr Ombwdsmon a chafwyd cyfanswm o 68 o ganmoliaethau yn dangos gwerthfawrogiad o'r ffordd y mae staff yn cyfathrebu ac yn gwrando, eu proffesiynoldeb, eu gwybodaeth a'u heffeithiolrwydd a'r gefnogaeth a ddarperir. Datblygwyd a gweithredwyd polisïau ôl-ofal newydd yn ogystal â pholisi ar faterion ariannol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Mae'r Pecyn Maethu newydd wedi arwain at nifer o ymholiadau am faethu ac mae rhai ohonynt wedi mynd ymlaen i gael eu hasesu; y gobaith yw y bydd y diddordeb newydd yn troi'n leoliadau ychwanegol yn Ynys Môn ar gyfer plant sy'n derbyn gofal.

 

Wrth longyfarch y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ar eu cynnydd parhaus, gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am fwy o wybodaeth am yr effaith y mae buddsoddi mewn mesurau ataliol wedi'i chael a sut y gallai'r mesurau hynny fod yn darparu gwerth ychwanegol.

 

Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd fod y Tîm Teuluoedd Gwydn sy'n ceisio darparu ymyrraeth amserol i deuluoedd y mae angen cymorth arnynt yn gweithio ar hyn o bryd gyda 71 o blant y gallai 50 ohonynt o bosib fod wedi'u rhoi mewn gofal heb fewnbwn gan y tîm.

 

Penderfynwyd cadarnhau bod y Pwyllgor Gwaith yn fodlon â chyflymder y cynnydd a’r gwelliannau hyd yma o fewn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.