11 Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion PDF 352 KB
11.1 OP/2019/8 – Tyn Pwll, Brynsiencyn
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
11.1 OP/2019/8 – Cais amlinellol gyda’r holl faterion wedi eu cadw’n ôl ar gyfer codi annedd ar dir yn Tyn Pwll, Brynsiencyn
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais a rhoi hawl i weithredu i’r Swyddogion wedi i’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus statudol ddod i ben.
Cofnodion:
11.1 OP/2019/8 – Cais amlinellol gyda’r holl faterion wedi eu cadw’n ôl ar gyfer codi annedd ar dir yn Tyn Pwll, Brynsiencyn
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am fod yr ymgeisydd yn perthyn i aelod etholedig o’r Cyngor. Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, mae Swyddog Monitro’r Cyngor wedi craffu ar y cais.
Datganodd y Cynghorydd Eric W Jones ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu yn y cais ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.
Amlinellodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y cais ac ychwanegodd nad yw’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus yn dod i ben tan 24 Gorffennaf, 2019 a gofynnwyd i Swyddogion gael hawl i weithredu ar ôl i’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus ddod i ben, os na dderbynnir unrhyw sylwadau.
Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Kenneth P Hughes.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais ac i roi hawl gweithredu i’r Swyddogion wedi i’r cyfnod ymgynghori statudol ddod i ben.