12 Gweddill y Ceisiadau PDF 968 KB
12.1 FPL/2019/162 – Ysgol Gynradd Morswyn, Ffordd Cyttir, Caergybi
12.2 FPL/2019/161 – Ysgol Gynradd Pencarnisiog, Pencarnisiog
12.3 FPL/2019/171 – Maes Awyr Môn, Ffordd Minffordd, Caergeiliog
12.4 FPL/2019/50 – Parc Gwledig y Morglawdd, Caergybi
12.5 OP/2019/6 – Hen Safle Peboc, Llangefni
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
12.1 FPL/2019/162 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol yn gae chwarae ar gyfer yr ysgol, codi Ystafell ddosbarth symudol, codi ffensys a waliau terfyn ynghyd â gwaith tirlunio medal a chaled yn Ysgol Gynradd Morswyn, Ffordd Cyttir, Caergybi
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais a rhoi hawl i weithredu i’r Swyddogion wedi i’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus statudol ddod i ben.
12.2 FPL/2019/161 – Cais llawn ar gyfer codi ystafell ddosbarth symudol yn Ysgol Gynradd Pencarnisiog, Pencarnisiog
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig a bod amod ychwanegol yn cael ei osod bod Cynllun Rheoli Traffig yn cael ei gyflwyno yn ystod y cyfnod adeiladu.
12.3 FLP/2019/171 – Cais llawn ar gyfer dymchwel y ffens presennol ynghyd a codi ffens newydd yn Maes Awyr Môn, Ffordd Minffordd, Caergeiliog
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cymmwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.4 FPL/2019/50 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu ynghyd a creu lle chwarae treftadaeth a tirlunio cysylltiedig yn Parc Gwledig y Morglawdd, Caergybi
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cymmwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.5 OP/2019/6 – Cais amlinellol gyda’r holl faterion wedi eu cadw’n ôl ar gyfer dymchwel cyn weithle cemegol ynghyd a chodi 7 uned defnydd busnes (Dosbarth B1), defnydd diwydiannol cyffredinol (Dosbarth B2) a defnydd warws a dosbarthu (Dosbarth B8) yn yr hen safle Peboc, Llanefni
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cymmwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cofnodion:
12.1 FPL/2019/162 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol yn gae chwarae ar gyfer yr ysgol, codi ystafell ddosbarth symudol, codi ffensys a waliau terfyn ynghyd â gwaith tirlunio meddal a chaled yn Ysgol Gynradd Morswyn, Ffordd Cyttir, Caergybi
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y tir ym mherchnogaeth y Cyngor.
Amlinellodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y cais i’r Pwyllgor ac ychwanegodd nad yw’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus yn dod i ben tan 24 Gorffennaf, 2019 a gofynnodd i Swyddogion gael hawl i weithredu ar ôl i’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus ddod i ben os na dderbynnir unrhyw sylwadau.
Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth P Hughes fod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais a rhoi hawl i weithredu i’r Swyddogion wedi i’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus statudol ddod i ben.
12.2 FPL/2019/161 – Cais llawn ar gyfer codi ystafell ddosbarth symudol yn Ysgol Gynradd Pencarnisiog, Pencarnisiog
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y tir ym mherchnogaeth y Cyngor.
Amlinellodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y cais ac ychwanegodd fod yr Awdurdod Priffyrdd wedi gofyn am amod ychwanegol er mwyn cyflwyno Cynllun Rheoli Traffig yn ystod cyfnod adeiladu’r datblygiad.
Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen fod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric W Jones.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig a bod amod ychwanegol yn cael ei osod bod Cynllun Rheoli Traffig yn cael ei gyflwyno yn ystod y cyfnod adeiladu.
12.3 FLP/2019/171 - Cais llawn ar gyfer dymchwel y ffens bresennol ynghyd â chodi ffens newydd ym Maes Awyr Môn, Ffordd Minffordd, Caergeiliog
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am fod y cais wedi’i gyflwyno gan y Cyngor.
Amlinellodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y cais a dywedodd ei bod yn dymuno diwygio adroddiad y Swyddog gan mai 3.15 metr yw uchder y ffens newydd. Nododd fod cais tebyg wedi’i ganiatáu’n ddiweddar ar y safle hwn ond bod y Weinyddiaeth Amddiffyn yn gwrthwynebu gan fod y safle o fewn ardal lle cyfyngir ar ddatblygiad er mwyn sicrhau nad oes unrhyw effaith ar awyrennau; nid oedd uchder y ffens yn dderbyniol i’r Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae uchder y ffens ddiogelwch arfaethedig wedi gostwng ychydig, ynghyd â’i dyluniad, ac mae bellach yn dderbyniol i’r weinyddiaeth amddiffyn.
Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen fod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.4 FPL/2019/50 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu ynghyd â chreu lle chwarae treftadaeth a thirlunio cysylltiedig ym Mharc Gwledig y Morglawdd, Caergybi
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn cael ei gyflwyno ar ran y Cyngor.
Amlinellodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y cais a nododd y bydd y ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12