5 Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith PDF 778 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi ei diweddaru am y cyfnod Awst, 2019 hyd at fis Mawrth, 2020 gyda’r newid ychwanegol a amlinellwyd yn y cyfarfod.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod o Awst, 2019 i Mawrth 2020 i’w ystyried a nodwyd y newidiadau canlynol –
Eitem newydd ar gyfer cyfarfod 16 Medi, 2019 –
Eitem 2 – Adroddiad Perfformiad Blynyddol (Cynllun Gwella) 2018/19
Eitem wedi’i hail drefnu –
• Eitem 9 – Anableddau Dysgu: Trawsnewid Cyfleoedd Dydd (caniatâd mewn perthynas â’r broses ymgysylltu) o gyfarfod 16 Medi i 28 Hydref, 2019 ac hefyd wedi’i ail eirio i ddarllen – Anableddau Dysgu: Trawsnewid Cyfleoedd Dydd (caniatâd mewn perthynas â’r broses ymgynghori).
Eitemau ychwanegol i’w trefnu ar y rhaglen waith ar gais y gwasanaethau –
• Ffoaduriaid Syria
• Tai Cyngor: Datblygiadau o 10 neu fwy o unedau – Llaingoch, Caergybi
• Cwrs Golff Llangefni
• Cynllun Adfywio Gogledd Ynys Môn
• Ffurfioli’r Bartneriaeth rhwng Ysgol Goronwy Owen ac Ysgol Moelfre
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi ei diweddaru am y cyfnod Awst, 2019 hyd at fis Mawrth, 2020 gyda’r newidiadau ychwanegol a amlinellwyd yn y cyfarfod.