Mater - cyfarfodydd

Draft Final Accounts 2018/19

Cyfarfod: 15/07/2019 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 6)

6 Cyfrifon Terfynol Drafft 2018/19 pdf eicon PDF 795 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd –

 

           Nodi’r prif ddatganiadau ariannol drafft (heb eu harchwilio) ar gyfer 2018/19.

           Nodi’r sefyllfa o ran cronfeydd wrth gefn clustnodedig a chymeradwyo’r defnydd o, neu gynnydd i gronfeydd wrth gefn unigol fel y nodir yn Atodiad 4 yr adroddiad.

           Cymeradwyo’r cronfeydd wrth gefn newydd, sy’n gyfanswm o £1.270m fel y gwelir yn Nhabl 3 yr adroddiad.

           Nodi’r sefyllfa o ran balansau’r ysgolion.

           Nodi balansau’r CRT fel yr oeddynt ar 31 Mawrth, 2019.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn cynnwys y prif ddatganiadau ariannol drafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19 (Datganiad Gwariant ac Incwm Cynhwysfawr drafft, Mantolen ddrafft fel ar 31 Mawrth, 2019 a chrynodeb o’r arian wrth gefn sy’n cael ei ddal gan y Cyngor) ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith. 

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid bod y dyddiad cau statudol ar gyfer cwblhau ac arwyddo’r cyfrifon drafft wedi ei symud ymlaen o 30 Mehefin i 15 Mehefin ar gyfer blynyddoedd ariannol 2018/19 a 2019/20 a bod yr amserlen yn cael ei chwtogi ymhellach i 31 Mai ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21 a thu hwnt (gyda’r dyddiadau ar gyfer archwilio’r cyfrifon terfynol yn cael ei symud o 30 i 15 Medi ar gyfer blynyddoedd ariannol 2018/19 a 2019/20 ac i 31 Gorffennaf ar gyfer 2020/21 a thu hwnt i hynny). Mae’r cyfrifon drafft ar gyfer 2018/19 wedi eu cwblhau a dechreuodd y gwaith o archwilio’r cyfrifon ar 1 Gorffennaf, 2019. Bydd y Datganiad Cyfrifon drafft llawn ar gyfer 2018/19 yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar 23 Gorffenanf, 2019. Bydd y cyfrifon terfynol wedi eu harchwilio yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a’r Cyngor Llawn ym mis Medi. 

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod y datganiadau ariannol drafft llawn ar gyfer 2018/19 ar gael ar wefan y Cyngor. 

 

Bu’r Cadeirydd, gan gydnabod y gwaith caled a oedd wedi’i wneud er mwyn cyflawni’r her o amserlen dynnach ar gyfer cynhyrchu datganiadau ariannol drafft, dynnu sylw at y ffaith bod y stori y tu ôl i’r ffigyrau yn parhau i fod yn un o’r heriau a’r ansicrwydd ariannol parhaus gyda gwasanaethau’r Cyngor yn parhau i wynebu pwysau ariannol. 

 

Penderfynwyd

 

           Nodi’r prif ddatganiadau ariannol drafft (heb eu harchwilio) ar gyfer 2018/19.

           Nodi’r sefyllfa o ran cronfeydd wrth gefn clustnodedig a chymeradwyo’r defnydd o, neu gynnydd i gronfeydd wrth gefn unigol fel y nodir yn Atodiad 4 yr adroddiad.

           Cymeradwyo’r cronfeydd wrth gefn newydd, sy’n gyfanswm o £1.270m fel y gwelir yn Nhabl 3 yr adroddiad.

           Nodi’r sefyllfa o ran balansau’r ysgolion.

           Nodi balansau’r CRT fel yr oeddynt ar 31 Mawrth, 2019.