Mater - cyfarfodydd

Gweddill y Ceisiadau

Cyfarfod: 03/07/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 12)

12 Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 582 KB

12.1 VAR/2019/14 – Cae Eithin, Malltraeth

 

12.2 FPL/2019/98 – Warden House, Awel y Môr, Rhosneigr

 

12.3 HHP/2019/129 – Tŷ Arfon, Lôn Refail, Llanfairpwll

 

12.4 FPL/2019/146 – Parc Peibio, Morawelon, Caergybi

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

12.1    VAR/2019/14 – Cais dan Adran 73A i ddileu amod (08) (lefel llawr gorffenedig) ac amrywio amod (11) (cynlluniau a gymeradwywyd dan gais am y materion a gadwyd yn ôl rhif 15C48J/FR/DA) o gais cynllunio amlinellol rhif 15C48H (cais amlinellol ar gyfer codi annedd ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau) er mwyn galluogi diwygio gosodiad a dyluniad yr annedd a’r modurdy ar wahân a gymeradwywyd yn flaenorol, ynghyd â chodi wal amddiffyn llifogydd perimedr newydd yn Cae Eithin, Malltraeth

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle am y rheswm a roddwyd.

 

12.2    FPL/2019/98 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd yr ystafell gymunedol bresennol yn eiddo preswyl fforddiadwy yn Nhŷ’r Warden, Awel y Môr, Rhosneigr

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag adroddiad ac argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.3 HHP/2019/129 – Cais llawn i godi garej ar wahân yn Tŷ Arfon, Lôn Refail, Llanfairpwll

 

Penderfynwyd ymweld â safle’r cais yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rheswm a roddwyd.

 

12.4  FPL/2019/146 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir gwag i fod yn le chwarae sy’n cynnwys gosod offer chwarae yn Parc Peibio, Morawelon, Caergybi

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag adroddiad ac argymhelliad y Swyddog gyda’r amod sydd wedi’i gynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Cofnodion:

12.1    VAR/2019/14 –  Cais dan Adran 73A i ddileu amod (08) (lefel llawr gorffenedig) ac amrywio amod (11) (cynlluniau a gymeradwywyd dan gais am y materion a gadwyd yn ôl rhif 15C48J/FR/DA) o gais cynllunio amlinellol rhif 15C48H (cais amlinellol ar gyfer codi annedd ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau) er mwyn galluogi diwygio gosodiad a dyluniad yr annedd a’r modurdy ar wahân a gymeradwywyd yn flaenorol, ynghyd â chodi wal amddiffyn llifogydd perimedr newydd yn Cae Eithin, Malltraeth

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol oherwydd pryderon ynghylch mynediad a materion yn ymwneud â pherchnogaeth tir.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen fod ymweliad safle’n cael ei gynnal oherwydd y pryderon ynghylch y fynedfa a pherchnogaeth tir. Esboniodd y Cynghorydd Owen ei fod yn credu bod y cais hwn yn gynamserol gan nad oes gan yr ymgeisydd fynediad i’r annedd ar hyn o bryd ac y dylai’r Pwyllgor weld safle’r cais yn gyntaf cyn dod i benderfyniad arno.

 

Eglurodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais hwn ar gyfer diwygio’r caniatâd amlinellol a’r caniatâd materion a gadwyd yn ôl am annedd lle’r oedd y fynedfa yn cael ei rhannu â Pen Parc, yr eiddo drws nesaf. Rhoddwyd caniatâd ar wahân am fynedfa a dreif breifat ar wahân i Cae Eithin fel rhan o gais annibynnol diweddarach. Fodd bynnag, mae’r cais a gyflwynwyd ar gyfer amrywio amodau’r caniatâd yn ymwneud â’r annedd yn unig ac nid yw’n ymwneud â’r fynedfa breifat. O ganlyniad, nid yw’r rheswm a roddwyd ar gyfer cynnal ymweliad safle, h.y. materion yn ymwneud â’r fynedfa, yn rheswm cynllunio dilyn ar gyfer y cais hwn gan ei fod yn ymwneud â newidiadau i’r annedd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Owen fod yr ail fynedfa y cyfeiriwyd ati wedi cael ei chreu ar dir nad yw’r ymgeisydd yn berchennog arno ac nad oes cytundeb rhwng yr ymgeisydd a’r cymydog drws nesaf ynghylch prynu’r tir. Dywedodd y Cynghorydd Owen y dylai’r mater yn ymwneud â’r fynedfa gael ei ddatrys yn gyntaf cyn bod modd dod i benderfyniad ar y cais hwn gan nad oes modd defnyddio’r eiddo heb fynediad cyfreithiol.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ychydig o wybodaeth gefndirol am y cais a’i gyd-destun i’r Pwyllgor ac, wrth gyfeirio at fap o’r safle, dangosodd y tir yr oedd y fynedfa ar wahân wedi’i lleoli arno mewn perthynas â’r tir y mae’r annedd sy’n destun y cais hwn wedi’i leoli arno. Cymeradwywyd y fynedfa ar wahân fel caniatâd annibynnol a bu’n destun ymchwiliad gorfodaeth mewn perthynas â thorri amodau. Eglurodd y swyddog hefyd, fel rhan o’r cais hwn ar gyfer newid y caniatâd amlinellol gwreiddiol a oedd yn cynnwys mynediad, fod yr ymgeisydd wedi cyflwyno rhybudd i’r tirfeddiannwr ac o ganlyniad bod modd delio gyda’r cais hwn. Ar wahân i hynny, nid yw perchnogaeth tir yn fater cynllunio.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Dywedodd Mr Dafydd Jones Russell Hughes (o blaid y cais) mai’r unig faterion sy’n berthnasol i’r cais yw bod lefel orffenedig y llawr, mân newidiadau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12