10 Ceisiadau'n Gwyro PDF 71 KB
10.1 VAR/2019/9 – Neuadd, Cemaes
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
10.1 VAR/2019/9 – Cais dan Adran 73 i amrywio amod (01) (Cynlluniau a Gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio rhif 18C71E (Newid yr adeilad allanol i annedd ynghyd â gosod system trin carthffosiaeth) fel y’i diwygiwyd dan gais cyfeirnod MAO/2018/2 fel y gellir gwneud newidiadau i ddyluniad yr addasiad o’r adeilad allanol ynghyd â rhyddhau amod (03) (Manylion Ffiniau) yn Neuadd, Cemaes
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cofnodion:
10.1 VAR/2019/9 – Cais dan Adran 73 i amrywio amod (01) (Cynlluniau a Gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio rhif 18C71E (Newid yr adeilad allanol i annedd ynghyd â gosod system trin carthffosiaeth) fel y’i diwygiwyd dan gais cyfeirnod MAO/2018/2 fel y gellir gwneud newidiadau i ddyluniad yr addasiad o’r adeilad allanol ynghyd â rhyddhau amod (03) (Manylion Ffiniau) o gais cynllunio cyfeirnod 18C71E yn Neuadd, Cemaes
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn tynnu’n groes i’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol am ei gymeradwyo.
Rhoddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio amlinelliad o’r cais i’r Pwyllgor a dywedodd fod yr ymgeisydd hefyd wedi cyflwyno manylion ffiniau fel rhan o’r cais. Nododd fod y cais yn tynnu’n groes i Bolisi TAI 7 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, fodd bynnag y sefyllfa wrth gefn yw bod gan safle’r cais eisoes ganiatâd cynllunio ar gyfer trosi’r adeilad allanol yn annedd.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd K P Hughes.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.