Mater - cyfarfodydd

Annual Performance Report (Improvement Plan 2018/19)

Cyfarfod: 16/09/2019 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 5)

5 Adroddiad Perfformiad Blynyddol (Cynllun Gwella) 2018/19 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd argymell y dylid cyhoeddi’r fersiwn derfynol o Adroddiad Perfformiad 2018/19 erbyn y dyddiad statudol ar ddiwedd mis Hydref, a bod Swyddogion yn cwblhau hyn mewn ymgynghoriad â’r Deilydd Portffolio fel y gellir cyflwyno’r Adroddiad i’r Cyngor llawn ar 7 Hydref, 2019.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid yn ymgorffori'r Adroddiad Perfformiad Blynyddol drafft ar gyfer 2018/19 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol ei bod yn ofynnol i'r Cyngor gynhyrchu a chyhoeddi ei Adroddiad Perfformiad Blynyddol erbyn 31 Hydref bob blwyddyn; mae'r adroddiad yn ddogfen statudol sy'n dadansoddi perfformiad dros y flwyddyn ariannol flaenorol yn erbyn y gwelliant a'r blaenoriaethau yn y Ddogfen Gyflawni Flynyddol a Chynllun y Cyngor. Mae ffurf Adroddiad Perfformiad Blynyddol eleni ychydig yn wahanol i rai'r blynyddoedd diwethaf gan ei fod yn edrych ar gynnydd a wnaed gan y Cyngor o ran cyflawni yn erbyn ei Ddogfen Gyflawni Flynyddol ar gyfer 2018/19 fel yr amlinellwyd o dan y 3 amcan blaenoriaeth a nodir ym mharagraff 1.3 yr adroddiad.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ei fod yn falch o allu adrodd, ar sail ei berfformiad yn erbyn dangosyddion cenedlaethol, a elwir yn Fesurau Atebolrwydd Perfformiad (MAP), fod safle’r Cyngor trwy’r wlad wedi gwella unwaith eto yn 2018/19. Er y bu rhai siomedigaethau yn 2018/19 gydag atal datblygu gorsaf Wylfa Newydd a'r llithriad ar Raglen Moderneiddio Ysgolion yn ardaloedd Llangefni a Seiriol, bu nifer o lwyddiannau nodedig hefyd gan gynnwys cwblhau Ffordd Gyswllt Llangefni, adfywio Neuadd y Farchnad yng Nghaergybi sydd bellach yn gartref i'r llyfrgell leol, cwblhau ac agor yr Ysgol Santes Dwynwen newydd yn Niwbwrch ynghyd â chwblhau a phrydlesu 7 uned fusnes newydd yn Llangefni gydag 8 uned arall yng Nghaergybi yn cael caniatâd cynllunio a’r gwaith adeiladu yn cychwyn yn 2019/20. Llwyddodd y Gwasanaeth Tai i ddod â 78 o dai gwag yn ôl i ddefnydd ledled yr Ynys ac adeiladwyd cyfanswm o 48 o gartrefi newydd yn ystod y flwyddyn. Wrth dynnu sylw at y cyflawniadau hyn a rhai eraill, diolchodd yr Aelod Portffolio i staff y Cyngor gan na fyddai’r llwyddiannau hyn wedi bod yn bosib heb eu hymroddiad a'u gwaith caled. Wrth edrych ymlaen, er bod y Cyngor yn parhau i wynebu her ac ansicrwydd wrth ddarparu ei wasanaethau, roedd yn hyderus serch hynny y gallai, gyda chefnogaeth ei staff a'i bartneriaid, wneud gwelliannau pellach a sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bobl Ynys Môn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol fod y Pwyllgor Sgriwtini, wrth ystyried yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol yn ei gyfarfod ar 11 Medi, yn falch o nodi perfformiad y Cyngor fel y meincnodwyd ef yn erbyn perfformiad Cynghorau eraill yng Nghymru a'r gwelliant yn ei safle cenedlaethol o ganlyniad. ‘Roedd yn ddiolchgar i'r Arweinydd a'r Swyddogion a fynychodd y cyfarfod am ymateb yn eglur i'r cwestiynau a godwyd ar yr adroddiad. Roedd y Pwyllgor Sgriwtini yn falch o argymell yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol i'r Pwyllgor Gwaith.

 

Cydnabu'r Pwyllgor Gwaith y llwyddiannau lu y mae'r adroddiad yn dyst iddynt a chytunwyd bod y llwyddiant hwnnw i’w briodoli i arweinyddiaeth glir, gweithlu ymroddedig a  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5