6 Adroddiad Monitro’r Cerdyn Sgorio – Chwarter 1, 2019/20 PDF 698 KB
Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd derbyn adroddiad monitro’r Cerdyn Sgorio ar gyfer Chwarter 1 2019/20, gan nodi’r meysydd y mae’r Uwch Dîm Rheoli yn eu rheoli er mwyn sicrhau gwelliannau i’r dyfodol ac i dderbyn y mesurau lliniaru fel maent wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid yn ymgorffori'r Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 1 2019/20 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol fod cerdyn sgorio cyntaf blwyddyn ariannol 2019/20 yn dangos bod mwyafrif y dangosyddion a gafodd eu monitro yn perfformio'n dda yn erbyn targedau gydag ychydig iawn o feysydd yn dangos yn goch ar y cerdyn sgorio. Os yw meysydd yn tanberfformio, mae camau lliniaru yn cael eu rhoi ar waith i wella'r perfformiad yn Chwarter 2 (adran 4 yr adroddiad).
Dywedodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad fod rhai newidiadau wedi'u gwneud i'r cerdyn sgorio er mwyn darparu trosolwg mwy strategol o berfformiad, a hynny’n dilyn gweithdy yn yr haf gydag aelodau o'r UDA, y Pwyllgor Gwaith a'r Pwyllgor Gwaith Cysgodol; mae'r newidiadau hefyd wedi arwain at aliniad agosach rhwng y Dangosyddion Perfformio Allweddol sy’n ymwneud â monitro perfformiad a thri amcan strategol y Cyngor fel y nodir hwy ym mharagraff 2.1 yr adroddiad.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, fod y Pwyllgor Sgriwtini yn ei gyfarfod ar 11 Medi wedi trafod y meysydd lle bu dirywiad mewn agweddau ar berfformiad yn Chwarter 1 yn y meysydd tai, cynllunio a gwasanaethau plant. Roedd y Pwyllgor, wrth nodi'r camau lliniarol yr oedd y gwasanaethau hynny'n eu cymryd i wella perfformiad yn y meysydd dan sylw, fel yr eglurwyd gan y Swyddogion yn y cyfarfod, wedi derbyn y sicrwydd a roddwyd ynghylch y cynnydd a oedd yn cael ei wneud.
Penderfynwyd derbyn adroddiad monitro’r Cerdyn Sgorio ar gyfer Chwarter 1 2019/20, gan nodi’r meysydd y mae’r Uwch Dîm Rheoli yn eu rheoli er mwyn sicrhau gwelliannau i’r dyfodol ac i dderbyn y mesurau lliniaru fel maent wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.