Mater - cyfarfodydd

Revenue Budget Monitoring - Quarter 1, 2019/20

Cyfarfod: 16/09/2019 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 11)

11 Monitro’r Gyllideb Refeniw - Chwarter 1, 2019/20 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd

 

           Nodi’r sefyllfa a amlinellir yn Atodiad A a B yr adroddiad yng nghyswllt perfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro disgwyliedig ar gyfer 2019/20.

           Nodi’r crynodeb o’r cyllidebau wrth gefn ar gyfer 2019/20 fel y manylir yn Atodiad C.

           Nodi’r sefyllfa mewn perthynas â’r rhaglenni buddsoddi i arbed yn Atodiad Ch yr adroddiad a chymeradwyo defnyddio unrhyw falans sy’n weddill ar y cyfalaf / datblygu’r system cynllunio a phridiannau tir awtomataidd newydd i ariannu’r gwaith o sganio a digideiddio ffeiliau hanesyddol.

           Nodi’r sefyllfa o ran arbedion effeithlonrwydd ar gyfer 2019/20 fel y caiff ei nodi yn Atodiad D yr adroddiad.

           Nodir costau asiantaeth ac ymgynghorwyr ar gyfer 2019/20 fel y cânt eu nodi yn Atodiadau DD, E ac F.

           Cymeradwyo’r ffioedd a’r prisiau newydd ar gyfer Canolfan Fusnes Ynys Môn fel y’u nodir yn Atodiad FF yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau'r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 1 blwyddyn ariannol 2019/20 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid, yn seiliedig ar y wybodaeth ariannol sydd ar gael am dri mis cyntaf y flwyddyn ariannol hyd at ddiwedd mis Mehefin, 2019, mai’r sefyllfa ariannol gyffredinol a ragwelir ar gyfer 2019/20 gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a chronfa’r Dreth Gyngor, yw gorwariant o £ 1.60m (1.18% o gyllideb net y Cyngor ar gyfer 2019/20) a hynny yn bennaf oherwydd yr un math o bwysau ar y gyllideb ag a fu yn 2018/19, sef yn benodol mewn perthynas â Chludiant Ysgol a Gwasanaethau Oedolion. Rhoddwyd y system Drafnidiaeth “One” ar waith yn 2018/19 ac mae hynny, ynghyd ag ymarfer aildendro, wedi arwain at ostyngiad o tua £230k yn y gorwariant cyffredinol ar drafnidiaeth ysgol o gymharu â’r gorwariant a fyddai wedi digwydd fel arall.  Ar gyfer Gwasanaethau Oedolion, mae trosglwyddo un lleoliad cost uchel cymhleth iddo o’r Gwasanaeth Plant wedi cyfrannu at y gorwariant o £ 599k a ragwelir yn y maes Anableddau Dysgu. Dywedodd yr Aelod Portffolio ei bod yn anodd proffwydo’n gywir yn gynnar yn y flwyddyn ariannol ond mae profiadau yn y gorffennol wedi dangos bod y sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn yn tueddu i fod yn well na’r amcangyfrif yn y chwarter cyntaf.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, er bod yr adroddiad yn dangos yn Atodiad 1 fod gwariant ysgolion yn unol â’r gyllideb a ddirprwywyd iddynt, nid yw’n rhoi arwydd o beth fydd yr effaith gyffredinol ar falansau ysgolion. Rhagwelir y bydd balansau ysgolion yn parhau i ostwng, ac erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gyfredol y byddant yn sylweddol is na’r balans o £600k a oedd yn sefyll ar ddiwedd 2018/19.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am ôl-effeithiau ymosodiadau olew Saudi Arabia ar brisiau ynni a'r effaith bosib ar gyllideb refeniw'r Cyngor, eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod gan y Cyngor sawl contract tymor hir lle mae'r  pris yn sefydlog am nifer o flynyddoedd. Felly, os bydd pris olew yn codi yn y tymor byr ac wedyn yn gostwng eto, ni fydd yn cael effaith sylweddol ar y Cyngor. Fodd bynnag, os bydd pris olew yn parhau i fod yn uchel pan ddaw'r amser i’r Cyngor aildrafod ei gontractau, yna mae'r Cyngor yn debygol o deimlo'r effeithiau bryd hynny.

 

Penderfynwyd

 

           Nodi’r sefyllfa a amlinellir yn Atodiad A a B yr adroddiad yng nghyswllt perfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro disgwyliedig ar gyfer 2019/20.

           Nodi’r crynodeb o’r cyllidebau wrth gefn ar gyfer 2019/20 fel y manylir yn Atodiad C.

           Nodi’r sefyllfa mewn perthynas â’r rhaglenni buddsoddi i arbed yn Atodiad Ch yr adroddiad a chymeradwyo defnyddio unrhyw falans sy’n weddill ar y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11