12 Monitro’r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 1, 2019/20 PDF 791 KB
Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Monitro perfformiad Cyllideb Gyfalaf 2019/20.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad y Gyllideb Gyfalaf ar gyfer chwarter cyntaf blwyddyn ariannol 2019/20 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid fod y gwariant gwirioneddol hyd at 30 Mehefin 2019 yn £3.076m o gymharu â phroffil o £4.623m. Mae mwyafrif y prosiectau ar darged i gael eu cwblhau o fewn y gyllideb. Gan dynnu sylw at Gynllun Lliniaru Llifogydd Biwmares, dywedodd yr Aelod Portffolio fod y contractwr newydd ar y cynllun (a benodwyd i gymryd lle'r contractwr a fethodd, sef Dawnus) wedi cyflwyno tendr diwygiedig yn seiliedig ar y wybodaeth newydd am y gwaith yr oedd angen ei wneud. Cafodd y ffigwr hwn ei gynnwys mewn cais newydd i Lywodraeth Cymru i gwrdd â’r holl gostau newydd a chostau oedd yn gysylltiedig â’r ffaith bod Dawnus wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr. Er bod y cais wedi'i gymeradwyo, gwelwyd cynnydd o £0.22m yn yr ymrwymiad y byddai angen i’r Cyngor ei wneud o ran cyllid cyfatebol. Oherwydd costau uwch y cynllun gofynnir i'r Pwyllgor Gwaith ailddyrannu £ 200k o arian cyfatebol o Gynllun Amddiffyn Rhag Llifogydd Traeth Coch i Gynllun Lliniaru Llifogydd Biwmares gan nad yw'r Cyngor mewn sefyllfa i symud ymlaen â chynllun Traeth Coch yn y flwyddyn ariannol hon. Bydd y £0.222m ychwanegol yn cael ei ariannu gan y gwasanaeth o'i gyllidebau cyfredol.
Penderfynwyd –
• Nodi’r cynnydd o ran gwariant a derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2019/20 yn Chwarter 1.
• Cymeradwyo ailddyrannu’r cyllid cyfatebol o £200k o Gynllun Lliniaru Lifogydd Traeth Coch i Gynllun Lliniaru Lifogydd Biwmares.