13 Monitro Cyllideb y CRT – Chwarter 1, 2019/20 PDF 313 KB
Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd nodi’r canlynol –
• Y sefyllfa a amlinellir o ran perfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 1, 2019/20.
• Yr alldro tybiedig ar gyfer 2019/20.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 1 2019/20 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid fod y sefyllfa refeniw ar gyfer y chwarter cyntaf yn dangos gorwariant o £4k. Mae'r rhagolwg incwm bellach £75k yn well na'r gyllideb wreiddiol, a rhagwelir y bydd y gwariant yn unol â’r gyllideb. Mae’r gwariant cyfalaf £342k yn uwch na'r gyllideb a broffiliwyd ac mae'r gwariant a ragwelir yn £142k yn uwch na'r gyllideb. Felly mae'r diffyg a ragwelir (gan gynnwys refeniw a chyfalaf) £67k yn uwch na'r gyllideb a hynny’n bennaf oherwydd y gwariant cyfalaf uwch na'r gyllideb.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod yr Awdurdod yn parhau i ddefnyddio balansau CRT i ariannu gwariant cyfalaf yn y lle cyntaf ond wrth i'r balansau hynny gael eu defnyddio, bydd yr Awdurdod yn edrych ar fenthyca’n allanol. Yn dilyn newidiadau i reolau Llywodraeth Cymru sy'n caniatáu mwy o gyfle i fenthyca, bydd yr Awdurdod yn adolygu ei gynlluniau tai i sefydlu faint o dai cyngor newydd y gall eu datblygu trwy fenthyca, tra hefyd yn sicrhau bod y swm benthyca yn fforddiadwy i'r CRT.
Penderfynwyd nodi’r canlynol –
• Y sefyllfa a amlinellir o ran perfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 1, 2019/20.
• Yr alldro tybiedig ar gyfer 2019/20.