Mater - cyfarfodydd

Medium Term Financial Strategy

Cyfarfod: 16/09/2019 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 14)

14 Cynllun Ariannol Tymor Canol 2020/21 i 2022/23 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd nodi cynnwys y Cynllun a chymeradwyo’r rhagdybiaethau a wnaed ynddo.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 oedd yn ymgorffori'r Cynllun Ariannol Tymor Canol (CATC) ar gyfer 2020/21 i 2022/23 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Mae'r CATC yn nodi anghenion adnoddau tebygol y Cyngor am y tair blynedd ariannol nesaf ac yn manylu ar sut mae'r Cyngor yn bwriadu cydbwyso'r gofynion hynny gyda’r cyllid sydd ar gael.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid fod y CATC wedi'i gwblhau yn ystod cyfnod o ansicrwydd ynghylch economi'r DU a'r effaith ar lefelau gwariant cyhoeddus yn y dyfodol. Mae'r ansicrwydd yn ei gwneud hi'n bwysicach fyth bod Llywodraeth Cymru yn gwneud cyhoeddiad mewn da bryd ynghylch ei setliad ariannol dangosol ar gyfer awdurdodau lleol am y flwyddyn nesaf a thu hwnt, yn enwedig nawr bod ei sefyllfa ei hun yn eglurach yn dilyn Adolygiad Gwariant y Llywodraeth Ganolog y cyhoeddwyd ei ganlyniad ar 4 Medi, 2019. O ystyried y pwysau parhaus ar lywodraeth leol mae hefyd yn hanfodol fod y setliad cyllido ar gyfer cynghorau yn un teg.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 mai bwriad y Llywodraeth Ganolog oedd cynnal Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr 3 blynedd yn ystod  haf 2019 ond gohiriwyd hynny o blaid Adolygiad Gwariant blwyddyn a gynhaliwyd ar 4 Medi pan wnaed cyhoeddiad y bydd £600m o arian ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Cymru yn 2020/21. Fodd bynnag, pan fo Llywodraeth Ganolog yn addo cyllid ychwanegol ar gyfer ysgolion ac ati, nid yw o reidrwydd yn golygu y bydd yr arian ychwanegol yn ffeindio ei ffordd  i ysgolion yng Nghymru gan fod y ffordd y mae'r arian yn cael ei ddyrannu yn dibynnu ar gynlluniau a blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru. Hyd nes y bydd y rheini'n hysbys mae'n anodd cynllunio ymlaen llaw gydag unrhyw sicrwydd. Felly mae'r CATC wedi ei seilio  ar y wybodaeth sydd ar gael ar ddiwedd yr haf, ond o gofio y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn cyllid ychwanegol, gall y sefyllfa newid er gwell. Mae Llywodraeth Leol yn wynebu pwysau cyllidebol mewn nifer o feysydd ac mae’r Cyngor yn Ynys Môn yn wynebu ei bwysau  unigryw ei hun ar ei gyllidebau (cyfeirir at hyn ym mhara 5.1 (i) i (x) o’r adroddiad). Yn ddiweddar, cyhoeddodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru adroddiad o’r enw Sicrhau Adnoddau ar gyfer Gwasanaethau Lleol yn 2020/21 ” sy'n manylu ar effaith llymder ar lywodraeth leol yng Nghymru ac sy’n amlinellu’r pwysau cyllidebol y mae cynghorau yn gyffredinol yn ceisio mynd i'r afael â nhw ledled Cymru ( Atodiad 2 i'r adroddiad). O ystyried y cyd-destun ariannol, mae'n anochel y bydd yn rhaid i'r Cyngor ddod o hyd i arbedion sylweddol yn 2020/21 oni bai bod Llywodraeth Cymru yn rhyddhau arian ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol i helpu i gau’r bwlch cyllido. Mae'r CATC yn Nhabl 6 yn cynnwys amlinelliad o’r senario orau a’r senario waethaf lle byddai'n rhaid i'r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 14