15 Adolygiad Blynyddol ar Reoli Trysorlys 2018/19 PDF 662 KB
Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
• Nodi y bydd y ffigyrau alldro yn yr adroddiad hwn yn parhau i fod yn ffigyrau dros dro tan fod y gwaith o archwilio Datganiad Cyfrifon 2018/19 wedi’i gwblhau a bod y cyfrifon wedi eu harwyddo; bydd unrhyw addasiadau sylweddol i’r ffigyrau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad yn cael eu hadrodd fel bo’n briodol.
• Nodi’r dangosyddion pwyllog a rheoli trysorlys dros dro ar gyfer 2018/19 sydd yn yr adroddiad.
• Derbyn yr adroddiad blynyddol ar reoli’r trysorlys ac anfon yr adroddiad ymlaen i’r Cyngor Llawn heb unrhyw sylwadau.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Adran 151 yn ymgorffori'r Adolygiad Blynyddol o ran Rheoli'r Trysorlys am 2018/19 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid mai'r Adolygiad Blynyddol yw'r trydydd mewn cyfres o adroddiadau y mae'n rhaid i'r Awdurdod eu cyhoeddi yn unol â’r gofynion ar gyfer adrodd ar reoli trysorlys – y ddau arall yw’r Strategaeth Rheoli Trysorlys Flynyddol a gymeradwywyd gan y Cyngor cyn y flwyddyn ariannol a’r Adolygiad Canol Blwyddyn. Archwiliwyd yr Adolygiad Blynyddol ar gyfer 2018/19 gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn ei gyfarfod ar 23 Gorffennaf, 2019 a chafodd ei dderbyn gan y pwyllgor heb wneud sylw pellach. Cyflwynir yr adroddiad i'r Cyngor Llawn ar ôl iddo gael ei dderbyn gan y Pwyllgor Gwaith.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, oherwydd cyfraddau llog sy’n gyffredinol isel, nad oedd y Strategaeth Rheoli Trysorlys wedi newid rhyw lawer o'r flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, o ganlyniad i falansau arian parod isel yn ystod y flwyddyn (roedd yr Awdurdod yn defnyddio arian parod lle bo modd er mwyn ariannu gwariant cyfalaf), penderfynwyd benthyca’n allanol ac wrth wneud hynny ad-dalodd y Cyngor £5m a chymerodd fenthyciad tymor hir newydd o £25m gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus. Mae monitro llif arian y Cyngor bob dydd yn rhan o'r strategaeth ac yn sicrhau bod gan y Cyngor ddigon o arian parod ar gael pan fydd ei angen arno.