Mater - cyfarfodydd

CIW Inspection of Children's Services in Anglesey - Improvement Plan - Quarterly Progress Report

Cyfarfod: 16/09/2019 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 8)

8 Adroddiad Cynnydd Chwarterol y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd pdf eicon PDF 267 KB

Cyflwyno adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd

 

                       Cadarnhau bod y Pwyllgor Gwaith yn fodlon â chyflymder y cynnydd a’r gwelliannau sydd wedi eu gwneud hyd yma yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

                       Gofyn i’r Panel Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol adolygu amlder yr adroddiadau cynnydd, ac yn y dyfodol a ddylai’r adroddiadau hynny ymwneud â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn eu cyfanrwydd.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ar y cynnydd a’r gwelliannau a wnaed hyd yma o fewn y Gwasanaeth i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd y Cadeirydd a'r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ar ddatblygiadau yn y cyfnod ers y diweddariad chwarterol blaenorol gan gyfeirio'n benodol at y canlynol -

 

 

           Meysydd y gwnaed cynnydd ynddynt o dan y Cynllun Datblygu Gwasanaeth 3 blynedd newydd (sydd wedi disodli'r Cynllun Gwella Gwasanaeth blaenorol).

           Gwaith ac effaith y Tîm Teuluoedd Gwydn sy'n camu i mewn pan fo gan deuluoedd anghenion uchel, a hynny er mwyn darparu ymyrraeth a chefnogaeth ddwys i gynnig cymorth pan fo teuluoedd yn chwalu, i atal plant rhag gorfod derbyn gofal ac i ddychwelyd plant sydd wedi bod yn derbyn gofal i’w teuluoedd.

           Prosiect Lleisiau o Ofal Cymru sy'n ceisio hwyluso ymgysylltiad gwell â phlant lleol sy’n derbyn gofal a phobl ifanc sydd wedi gadael gofal, a hynny trwy wrando ar eu profiadau a gwella gwasanaethau ar eu rhan trwy ddatblygu Grŵp Cyfranogi ar gyfer plant sydd yn derbyn gofal neu sydd wedi bod yn derbyn gofal. Bydd y grŵp yn helpu i gydgynhyrchu strategaeth ar gyfer plant mewn gofal a gadawyr gofal yn Ynys Môn ynghyd â Siarter Rhianta Corfforaethol.

           Maethu a Recriwtio Gofalwyr Maeth. Ym mis Mehefin cynhaliwyd y Pythefnos Maethu sy'n ddigwyddiad blynyddol i godi proffil gofalwyr maeth ac i gynorthwyo i recriwtio rhai newydd. Mae recriwtio darpar ofalwyr maeth wedi cael hwb gan y pecyn gofal maeth newydd a gyflwynwyd ym mis Ebrill, 2019 ac mae'r ymgyrch recriwtio wedi arwain at y posibilrwydd y bydd 24 o welyau gofal maeth newydd ar gael yn Ynys Môn erbyn mis Hydref, 2019.

 

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd y bydd y Gwasanaeth yn cynnal adolygiad o’r sefyllfa yn ystod y chwe mis nesaf drwy’r Panel Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol wrth i flwyddyn gyntaf y Cynllun Datblygu Gwasanaeth ddod i ben.

 

Adroddodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol fod y Pwyllgor wedi cael diweddariad tebyg yn ei gyfarfod ar 11 Medi ac yn ogystal â chadarnhau ei fod yn fodlon â'r gwelliannau sy'n cael eu gwneud o fewn y Gwasanaeth Plant a Theuluoedd a chyflymder y cynnydd, roedd y Pwyllgor hefyd wedi ailgadarnhau ei gefnogaeth i Arweinydd y Cyngor wrth iddi beidio â gosod targed ar gyfer gostwng nifer y plant sy'n derbyn gofal gan yr Awdurdod. Yn ogystal, derbyniodd y Pwyllgor ei adroddiad cyntaf gan y Panel Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol sydd newydd ei sefydlu (ac sydd wedi disodli'r Panel Gwella Gwasanaethau Plant).

 

Wrth ystyried yr adroddiad, cododd y Pwyllgor Gwaith y materion canlynol -

 

           Bod yr adroddiadau cynnydd chwarterol a gyflwynir dros amser yn dangos, wrth i'r Gwasanaeth barhau ar ei daith wella, fod y gwelliannau y mae wedi'u gwneud hyd yma yn gwreiddio ac yn arwain at newid cadarnhaol. Yn wyneb  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8