Mater - cyfarfodydd

North Anglesey Regeneration Plan

Cyfarfod: 16/09/2019 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 10)

10 Cynllun Adfywio Economaidd Gogledd Ynys Môn pdf eicon PDF 5 MB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd

 

           Cymeradwyo a chefnogi Cynllun Adfywio Economaidd Gogledd Ynys Môn.

           Dirprwyo’r awdurdod i’r Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol a’r Deilydd Portffolio i

 

·        Ddiweddaru’r Cynllun yn unol â hynny

·        Gwneud ceisiadau am gyllid, derbyn cynigion cyllid, a dyfarnu cyllid ar gyfer prosiectau fydd yn cefnogi’r gwaith o gyflawni’r cynllun, yn amodol ar gytundeb gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau).

 

           Adrodd ar gynnydd i’r Pwyllgor Gwaith a’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio yn flynyddol.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol sy'n ymgorffori Cynllun Adfywio Gogledd Ynys Môn i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd fod Cynllun Lle Gogledd Ynys Môn wedi'i greu o ganlyniad uniongyrchol i'r ymatebion a gafwyd gan aelodau'r cyhoedd ar sail eu blaenoriaethau ar gyfer adfywio'r ardal. Amcanion y cynllun yw darparu cyfeiriad teithio clir a darparu sylfaen i sicrhau swyddi cynaliadwy, buddsoddiad a chyfleoedd i ardal Gogledd Ynys Môn yn erbyn cefndir o Hitachi yn atal gwaith ar Wylfa Newydd a chau ffatri Rehau yn Amlwch. Cynhaliwyd proses ymgynghori gychwynnol gyda’r cyhoedd a rhanddeiliaid dros haf 2018 i nodi safbwyntiau, problemau, syniadau a blaenoriaethau. Cafwyd dros 600 o ymatebion i’r broses hon,  gan adlewyrchu pryder pobl leol am ddyfodol eu hardal a'u hawydd i weld rhywbeth yn cael ei wneud i'w gwella. Cyhoeddwyd y cynllun drafft ym mis Ebrill, 2019 ac yn sgil ymgynghoriad ar y cynllun gyda’r cyhoedd a rhanddeiliaid, fe gafwyd 48 o ymatebion a oedd yn eithriadiol o gefnogol i'r cynllun a'i gynnwys. Gan fod yr adnoddau sydd ar gael gan y Cyngor yn gyfyngedig, datblygwyd cais cyllido allanol i sicrhau cymorth allanol ychwanegol gan gronfa economaidd-gymdeithasol yr Asiantaeth Datgomisiynu Niwclear (ADN). Gan gydnabod effaith cyhoeddiadau Hitachi a Rehau, addawodd yr ADN gymorth ariannol o £ 450k i helpu i ddatblygu Cynllun Adfywio Gogledd Ynys Môn y Cyngor ac i gefnogi creu cyfleoedd economaidd newydd ar yr Ynys. Defnyddir yr arian i ddatblygu rhai o'r cysyniadau a'r syniadau yn y Cynllun i’r cam nesaf ac i ddenu cyllid / grantiau o ffynonellau eraill. Fodd bynnag, rhaid nodi y bwriedir i'r Cynllun ffurfio un rhan fach yn unig o strategaeth homogenaidd gyffredinol i adfywio ac ailddatblygu ardal Gogledd Ynys Môn mewn cydweithrediad â phartneriaid a rhanddeiliaid.

 

Er mwyn medru rhyddhau’r cyllid, (tua £165k y flwyddyn am 3 blynedd) dywedodd y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol  fod yn rhaid i'r Cyngor gyflwyno rhaglen yn flynyddol y mae'n rhaid i'r ADN ei chymeradwyo. O ystyried bod nifer o grwpiau ac unigolion wedi cysylltu â'r Gwasanaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd ar adeg ysgrifennu'r adroddiad hwn i ofyn am arian ar gyfer eu prosiectau / syniadau, bydd yn rhaid i'r Cyngor gymryd agwedd gadarn a disgybledig o ran sut mae'r cyllid yn cael ei ddefnyddio a rhaid blaenoriaethu'r prosiectau / gweithgareddau hynny a fydd yn cael effaith hirdymor ar yr ardal o ran denu cyfleoedd cyflogaeth a buddsoddi.

 

Croesawodd y Pwyllgor Gwaith yr adroddiad a'r Cynllun fel un sy'n darparu sylfaen dda ar gyfer ailddatblygu Gogledd yr Ynys gyda'r nod o greu swyddi a ffyniant i'r ardal ar adeg pan fo'r rhanbarth wedi dioddef ergydion economaidd difrifol. Diolchodd y Pwyllgor Gwaith i gymunedau Gogledd yr Ynys am eu hymateb i'r ymgynghoriad a'r Cynllun Adfywio ac am ymrwymo i weithio gyda'r Cyngor i wireddu’r cynllun.

 

Penderfynwyd –  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10