6 Polisi Gosod Tai Cyngor (Cyswllt Lleol) PDF 2 MB
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd cymeradwyo’r Polisi Gosod Tai Cyffredin diwygiedig fel y’i gyflwynwyd.
Cofnodion:
Cyflwynwyd ar gyfer ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai yn gofyn am ganiatâd y Pwyllgor Gwaith i ddiwygio’r Polisi Gosod Tai Cyngor.
Adroddodd yr Aelod Portffolio Tai a Chefnogi Cymunedau bod y Polisi Gosod Tai Cyngor wedi bod yn weithredol ers 2016 a bod yr adolygiad presennol, a oedd yn ceisio sefydlu a yw’r polisi presennol yn cyfrannu tuag at gymunedau cynaliadwy, hefyd yn gyfle i newid rhai elfennau o’r polisi er mwyn sicrhau ei fod yn addas i’r diben wrth symud ymlaen. Yn dilyn cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith, cyflawnwyd ymgynghoriad cynhwysfawr ar ddiffinio a chynnwys cysylltiad lleol o fewn y system fandio gyda’r gynulleidfa darged fel y nodwyd yn yr adroddiad; derbyniwyd 114 o ymatebion gyda chefnogaeth i gynnwys cyswllt lleol fel ystyriaeth o fewn y polisi gyda chysylltiad ag ardal benodol i gael ei ddiffinio drwy edrych ar ddalgylchoedd cynghorau tref a chymuned. Derbyniwyd ymateb da hefyd i’r cwestiynau eraill a gyflwynwyd mewn perthynas â gweithrediad y polisi. Dywedodd yr Aelod Portffolio bod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn ei gyfarfod ar 11 Medi, 2019 wedi craffu ar ganlyniad yr ymgynghoriad ac roedd y pwyllgor ynghyd â’r Aelodau yn gefnogol o’r gwelliannau a gynigwyd.
Cadarnhaodd y Cynghorydd Dylan Rees, Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol bod y Pwyllgor, wedi iddynt ystyried y broses ymgynghori a’r ymatebion, yn fodlon fod y broses wedi bod yn ddigonol a bod y newidiadau i’r Polisi Gosod Tai Cyngor yn dderbyniol yn seiliedig ar yr ymatebion a dderbyniwyd. Penderfynodd y Pwyllgor felly y dylid argymell fod y Polisi Gosod Tai Cyngor yn cael ei fabwysiadu gan y Pwyllgor Gwaith, yn cynnwys y newid mewn perthynas â chyswllt lleol.
Nododd y Pwyllgor Gwaith, wrth gefnogi a chroesawu cyflwyniad y ddarpariaeth cyswllt lleol i’r Polisi Gosod Tai, ei fod yn helpu i greu cymunedau cynaliadwy drwy sicrhau bod cysylltiadau teuluol a chymunedol yn cael eu cynnal ond nododd hefyd y bydd cwrdd ag anghenion brys mewn perthynas â thai hefyd yn parhau i fod yn flaenoriaeth.
Penderfynwyd cymeradwyo’r Polisi Gosod Tai Cyffredin diwygiedig fel y’i cyflwynwyd.