Mater - cyfarfodydd

Lowering the Admission Age to Ysgol Llandegfan

Cyfarfod: 28/10/2019 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 9)

9 Gostwng Oed Mynediad i Ysgol Llandegfan pdf eicon PDF 793 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cymeradwyo symud ymlaen i ymgynghori ar ostwng oedran mynediad Ysgol Llandegfan i dderbyn disgyblion  yn rhan amser o’r mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn 3 oed yn weithredol o Fedi 2020.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc yn dilyn cais gan Gorff Llywodraethol Ysgol Llandegfan i ymgynghori ar ostwng oedran mynediad yr ysgol i’r Pwyllgor Gwaith ar gyfer ei ystyriaeth. 

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc bod Corff Llywodraethol Ysgol Llandegfan wedi cyflwyno cais i’r Cyngor yn gofyn iddo ymgynghori ar ostwng yr oedran mynediad ar gyfer yr ysgol er mwyn gallu derbyn disgyblion yn rhan-amser o’r mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn 3 oed (yn weithredol o fis Medi 2020) yn hytrach na’r trefniadau presennol lle bydd disgyblion yn cael eu derbyn yn llawn amser ym mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn 4 oed. Mae’r Corff Llywodraethol o’r farn y byddai hyw yn ddatblygiad pwysig i’r ysgol gan y byddai’n galluogi disgyblion i gael mynediad i ddarpariaeth helaeth a chyfoethog a byddai’n sicrhau cysondeb, cynnydd a pharhad yn addysg y disgyblion, ynghyd â darparu addysg feithrin ffurfiol ar gyfer plant y dalgylch. Byddai hefyd yn galluogi’r ysgol i drefnu gofal plant hyblyg a fforddiadwy ar gyfer rhieni sy’n dymuno dychwelyd i’r gwaith.  

 

Siaradodd y Cynghorydd Alun Roberts fel Aelod Lleol o blaid y cais gan dynnu sylw at y ffaith bod Ysgol Llandegfan yn ysgol lwyddiannus ond a all fod o dan anfantais oherwydd y trefniadau presennol gan nad oes modd i’r ysgol gynnig clwb gofal/brecwast i’r disgyblion meithrin ac o ganlyniad bod rhieni yn dewis mynd â’u plant i ysgolion cyfagos er mwyn derbyn y ddarpariaeth hon. Byddai gostwng yr oedran mynediad yn dod â nifer o fanteision addysgol gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, galluogi’r ysgol i gynnig darpariaeth gadarn flwyddyn yn gynharach nag sy’n digwydd ar hyn o bryd gan ei galluogi i gyflwyno ethos a sylfaen addysgol gadarn yr ysgol yn gynt gyda hynny yn y pen draw yn hwyluso cynnydd addysgol y disgyblion. Yn ogystal, byddai newid ystod oedran yr ysgol yn gwella cysondeb yn y ddarpariaeth cyn ysgol, yn enwedig o ran darpariaeth ieithyddol.  

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith y sylwadau a wnaed ac fe gytunodd i’r cais y dylid cynnal ymgynghoriad ar ostwng yr oedran mynediad i Ysgol Llandegfan.

 

Penderfynwyd cymeradwyo symud ymlaen i ymgynghori ar ostwng oedran mynediad Ysgol Llandegfan i dderbyn disgyblion  yn rhan amser o’r mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn 3 oed yn weithredol o Fedi 2020.