Mater - cyfarfodydd

Applications Arising

Cyfarfod: 02/10/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 7)

7 Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 236 KB

7.1 - FPL/2019/1 - Capel Carmel, Lôn Capel, Amlwch

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

7.1 FPL/2019/ - Cais llawn ar gyfer addasu adeilad allanol yn saith fflat ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau yn Capel Carmel, Lôn Capel, Amlwch.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig yn amodol ar gytundeb A106 mewn perthynas â Tai Fforddiadwy.

 

 

Cofnodion:

7.1  FPL/2019/1 – Cais llawn ar gyfer newid adeilad allanol yn saith fflat ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau yn  Capel Carmel, Lôn Capel, Amlwch.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. 

 

Yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Medi, 2019 fe benderfynwyd ymweld â’r safle ac fe gynhaliwyd ymweliad â’r safle ar 18 Medi, 2019. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Aled M Jones, Aelod Lleol, bod yna 10 llythyr o wrthwynebiad wedi dod i law gan  drigolion lleol mewn perthynas â’r cais hwn oherwydd yr effaith andwyol y byddai’n ei gael ar yr ardal. Nododd fod y datblygwr wedi nodi yn Adran 11 ei gais nad oes angen am ‘ddargyfeiriad, diddymu a/neu greu hawliau tramwy’, ac mae hon yn ystyriaeth o bwys mewn perthynas â safle’r cais. Ymatebodd y Rheolwr Rheoli Datblygiad fod Adran 11 o’r ffurflenni ceisiadau cynllunio yn cyfeirio at hawliau tramwy cyhoeddus ac nid hawliau tramwy preifat. Dywedodd y Cynghorydd A M Jones hefyd fod y cais hwn angen nifer benodol o leoedd parcio gydag angen i gael mynediad i gefn yr adeilad a’i bod yn amlwg o’r ymweliad safle bod yr ardal yn gul ac nad oes unrhyw fynediad drwy’r cae i’r ochr arall o’r hen gapel i gefn yr adeilad. Nododd, er mai mater sifil yw dymchwel wal derfyn, ei bod yn amhosibl cael mynediad i gefn y capel. Dywedodd hefyd fod y datblygwr wedi tynnu rheiliau sydd o flaen y capel a hynny heb ganiatâd cynllunio. Dywedodd y Cynghorydd Jones y bydd datblygu’r hen  gapel hwn yn cael effaith andwyol ar eiddo cyfagos ac mae pryderon wedi eu mynegi am y traffig a fydd yn teithio i’r datblygiad ac oddi yno. Gofynnodd i’r Pwyllgor wrthod y cais.       

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygiad fod y datblygiad arfaethedig yn un ar gyfer 7 o fflatiau yn hen Gapel Carmel, Amlwch sy’n Adeilad Rhestredig Graddfa II. Mae’r cais yn dderbyniol yn nhermau polisi cynllunio ac y bydd yn cyfrannu tuag at dai fforddiadwy. Bydd y datblygiad arfaethedig yn adfer Adeilad Rhestredig Graddfa ii sydd mewn cyflwr gwael ac sydd wedi bod yn wag ers bron i 15 mlynedd. Cafodd ffin yr Ardal Gadwraeth ei hymestyn er mwyn cynnwys yr adeilad o fewn Ardal Amlwch. Mae Caniatâd Adeiladu Rhestredig eisoes wedi cael ei sicrhau ar gyfer newid defnydd y Capel. Gan fod yr Awdurdod Addysg wedi cadarnhau nad oes angen cyfraniad addysgol ond bod angen swm wedi’i gyfrifo tuag at dai fforddiadwy fel rhan o’r cais; byddai angen llunio cytundeb A106 mewn perthynas â’r cyfraniad tai fforddiadwy. Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygiad bod pryderon lleol wedi eu mynegi mewn perthynas â’r parcio yn y datblygiad arfaethedig oherwydd y traffig trwm sydd eisoes yn bodoli; mae’r cais yn cynnig 11 lle parcio ac mae’r trefniadau parcio a mynediad i gerbydau yn cael eu hystyried yn dderbyniol gan yr Awdurdod Priffyrdd Lleol. Nododd fod Amod 5 fel rhan o unrhyw ganiatâd ar gyfer y cais, yn dweud bod angen i’r cyfleusterau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7