Mater - cyfarfodydd

Departure Applications

Cyfarfod: 02/10/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 10)

10 Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 308 KB

10.1 ­­- FPL/2019/201 - Tegfan, Llanynghenedl

 

10.2 - VAR/2019/49 - Trearddur House, Bae Trearddur

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

10.1  FPL/2019/201 - Cais llawn ar gyfer codi annedd ar dir ger Tegfan, Llanynghenedl.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.2 VAR/2019/49 - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (11)(Cynllun Draenio) o ganiatâd cynllunio rhif 46C168A/FR (Codi annedd) a’r cais dilynol ar gyfer materion a gadwyd yn ôl cyfeirnod 46C168D/DA fel bod dŵr budr o'r annedd yn cael ei ollwng i waith trin carthffosiaeth ar y safle yn hytrach nag i’r system garthffosiaeth gyhoeddus ar dir ger Trearddur House, Bae Trearddur.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag

argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd

wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig

ac i ddiwygio Amod 8 y dylid cyflwyno

cynllun cynnal a chadw a’i gymeradwyo. 

 

Cofnodion:

10.1  FPL/2019/201 – Cais llawn ar gyfer codi annedd ar dir ger Tegfan, Llanynghenedl.

 

        Mae’r cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor oherwydd ei fod yn groes i bolisïau’r    

        Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol â’i fryd

        ar ei ganiatáu.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygiad fod cais wedi’i ganiatáu yn wreiddiol yn y 1960au ar gyfer annedd marchnad agored, Fodd bynnag, petai cais newydd yn cael ei gyflwyno byddai angen cyflwyno datganiad iaith Gymraeg ond mae sefyllfa wrth gefn mewn perthynas â’r cais hwn am annedd marchnad agored ac felly nid ystyrir bod angen datganiad iaith Gymraeg. Ystyrir fod y cais blaenorol yn debygol o gael ei weithredu ac mae’r newidiadau yn welliant o gymharu â’r hyn a ganiatawyd yn flaenorol.     

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth P Hughes y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen. 

 

        PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.2  VAR/2019/49 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (11)(Cynllun Draenio) o ganiatâd cynllunio rhif 46C168A/FR (Codi annedd) a’r cais dilynol ar gyfer materion a gadwyd yn ôl cyfeirnod 46C168D/DA fel bod dŵr budr o'r annedd yn cael ei ollwng i waith trin carthffosiaeth ar y safle yn hytrach nag i’r system garthffosiaeth gyhoeddus ar dir ger Trearddur House, Bae Trearddur.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn tynnu’n groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol a’i fryd ar ei ganiatáu.   

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Dywedodd Mr Steve Bond (a oedd yn siarad o blaid y cais) fod y cais yn cynnig defnyddio cyfleuster trin carthion hunangynhwysol yn hytrach na defnyddio’r prif system garthffosiaeth. Mae’r amrywiad yn ganlyniad i’r anymarferoldeb o gysylltu â’r brif garthffos sydd wedi’i lleoli yn y cae pêl-droed tua 40 metr i’r de ac i mewn i dir ac sy’n berchen i drydydd parti. Er mwyn cysylltu â’r system garthffosiaeth bresennol byddai angen i gysylltiad cangen newydd o’r plot groesi’r cwrs dŵr presennol sydd ger ymyl ochr y cae pêl-droed. Amlygodd trafodaeth â Dŵr Cymru bod ganddynt bryderon ynghylch y risg y byddai cysylltiad cangen newydd yn cael ei ddifrodi ac y gallai hynny arwain at lygru’r cwrs dŵr. O ganlyniad, roedd Dŵr Cymru angen datrysiad peirianyddol sylweddol drud a ystyrir yn anymarferol ac yn annichonadwy ar gyfer datblygiad tŷ sengl, yn enwedig pan ychwanegir hyn at gost y draen a’r gost o sicrhau hawddfraint gan y perchennog tir trydydd parti. Mae’r wybodaeth hon am y costau wedi’i chyflwyno a’i derbyn gan yr Awdurdod Cynllunio a Chyfoeth Naturiol Cymru. Y cynnig yw i ddefnyddio cyfleuster trin carthion Klargester sydd, unwaith y bydd y carthion wedi eu trin, yn rhyddhau dŵr sy’n rhydd o unrhyw halogyddion ac sydd felly’n golygu y gall redeg i nant, afon neu ffos gerrig. Mae’r Adran Ddraenio wedi cymeradwyo’r profion mandylledd a gynhaliwyd ar y safle ac maent  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10