Mater - cyfarfodydd

Development Proposals Submitted by Councillors and Officers

Cyfarfod: 02/10/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 11)

11 Cynigion datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 136 KB

11.1 - HHP/2019/190 - Bryn y Môr, Lôn Bryn y Môr, Y Fali

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

11.1 HHP/2019/190 -  Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu ar gyfer creu anecs hunan gynaliadwy yn Bryn y Môr, Lôn Bryn y Môr, Y Fali.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag

argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd

wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Cofnodion:

11.1  HHP/2019/190 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu ar gyfer creu anecs hunan gynaliadwy yn Bryn y Môr, Lôn Bryn y Môr, Y Fali.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog perthnasol fel y diffinnir hynny o fewn paragraff 4.6.10.4 o’r Cyfansoddiad. Mae’r cais wedi’i graffu gan y Swyddog Monitro yn ôl yr angen yn unol â 4.6.10.4 o’r Cyfansoddiad.  

 

Amlinellodd y Rheolwr Rheoli Datblygiad y cais i’r Pwyllgor a dywedodd nad oedd yn meddwl y byddai’r cais yn cael unrhyw effaith ar yr AHNE.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric W Jones.

 

         PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.