Mater - cyfarfodydd

Materion Eraill

Cyfarfod: 02/10/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 13)

13 Materion Eraill pdf eicon PDF 258 KB

13.1 - FPL/2018/57 - Parc Tyddyn Bach, Caergybi

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

13.1 FPL/2018/57 - Cais llawn ar gyfer codi 46 o dai ynghyd â chreu mynedfa newydd ar dir ger Parc Tyddyn Bach, Caergybi.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  • caniatáu’r cais yn amodol ar y cynllun tirlunio a chytundeb cyfreithiol A106 fel y nodir yn yr adroddiad;
  • rhoi hawl i weithredu i Swyddogion wedi i’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus statudol ddod i ben.  

 

Cofnodion:

13.1  FPL/2019/57 – Cais llawn ar gyfer codi 46 o dai ynghyd â chreu mynedfa newydd ar dir ger Parc Tyddyn Bach, Caergybi.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygiad y rhoddwyd caniatâd cynllunio mewn perthynas â’r cais hwn ym Mai 2019 yn amodol ar gwblhau cytundeb cyfreithiol. Wrth baratoi cytundeb cyfreithiol, mae manylion tirlunio diwygiedig wedi eu derbyn ac mae angen cyfeirio’r cais yn ôl at y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. Rhoddodd fanylion cefndirol am y cais o ran tirlunio a phlannu coed yn y cais cynllunio gwreiddiol a gyflwynwyd. Mae pryderon wedi’u codi nad yw’n bosibl gwneud y gwaith plannu coed yn unol â’r cynllun a gyflwynwyd i’r Awdurdod Cynllunio o ganlyniad i leoliad y ffos. Felly, mae manylion tirlunio diwygiedig wedi eu cyflwyno sy’n golygu y bydd y coed bellach yn cael eu plannu yng ngerddi’r anheddau newydd, y bydd ffensys yn cael eu codi ar y ffiniau ynghyd â llwyni a gwaith ail hadu. Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygiad yr ystyrir y manylion tirlunio diwygiedig yn dderbyniol ond nad yw’r cyfnod cyhoeddusrwydd lle gall pobl gyflwyno eu barn yn dod i ben tan 9 Hydref, 2019 ac mae angen pŵer wedi’i ddirprwyo unwaith y bydd y cyfnod hwn wedi dod i ben. Mae un gwrthwynebiad wedi’i dderbyn yn honni na fyddai’r llwyn arfaethedig yn tyfu’n ôl i’r uchder angenrheidiol a bod angen i erddi’r anheddau gael eu gosod yn ôl 1 metr. Mynegodd y gwrthwynebydd hefyd nad oes digon o le i gynnal a chadw’r ffos gyfagos a gofynnodd bod ffens yn cael ei chodi yn ystod y gwaith adeiladu ar y safle. Mae’r Swyddog Tirlunio wedi cadarnhau bod y manylion tirlunio diwygiedig yn dderbyniol ac mae’r Adran Ddraenio yn ystyried nad yw’r gwaith plannu yn amharu ar y gwaith o gynnal a chadw’r ffos gerllaw. Nododd fod y pellter o’r tai yn fwy na’r disgwyl o fewn y canllawiau cynllunio ac mae Amod 13 o fewn adroddiad y Swyddog yn mynd i’r afael â chodi ffensys yn ystod y gwaith o adeiladu’r datblygiad a bydd angen cyflwyno Cynllun Rheoli Amgylchedd Adeiladu a’i gymeradwyo cyn i’r datblygiad ddechrau.                

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygiadau mai’r argymhelliad yw i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ail gadarnhau ei benderfyniad o ganiatáu’r cais gyda chytundeb cyfreithiol A106 fel y nodwyd yn adroddiad y Swyddog ac i gynnwys y manylion tirlunio diwygiedig a gynigwyd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd R O Jones.  

 

            PENDERFYNWYD:-

 

  • caniatáu’r cais yn amodol ar y cynllun tirlunio a chytundeb cyfreithiol A106 fel y nodir yn yr adroddiad ac i gynnwys y gwaith tirlunio ychwanegol yn y safle o fewn y cytundeb cyfreithiol;

·         rhoi hawl i weithredu i Swyddogion wedi i’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus statudol ddod i ben.