Mater - cyfarfodydd

Llangefni Golf Course

Cyfarfod: 28/10/2019 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 11)

11 Cwrs Golff Llangefni pdf eicon PDF 1000 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd  -

 

·                Nodi cynnwys yr adroddiad a’r ymatebion a gafwyd i’r prosesau ymgynghori hyd yma.

·                Llwyr gefnogi a chymeradwyo argymhelliad y Gwasanaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd i ymgymryd â’r gwaith o baratoi asesiadau effaith pellach yn gwbl unol â gofynion y ddeddfwriaeth berthnasol.

·                Cefnogi a chymeradwyo cyfnod pellach o ymgynghori â’r cyhoedd.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol mewn perthynas â dyfodol Cwrs Golff Llangefni ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith. 

 

Yn absenoldeb yr Aelod Portffolio Prosiectau Mawr a Datblygiad Economaidd, dywedodd y Cadeirydd bod yr adroddiad yn nodi’r gwaith sydd wedi’i wneud ers i’r cyfrifoldeb am y Cwrs Golff gael ei drosglwyddo’n ôl i’r Cyngor ym mis Hydref, 2018 yn dilyn penderfyniad partneriaeth Llangefni i beidio â cheisio estyniad i brydles yr adnodd nac i ofyn am drosglwyddiad ased cymunedol gan y Cyngor. Mae rhan o’r gwaith hwn wedi cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus helaeth ar waredu’r ased (y mae crynodeb ohono i’w weld yn yr adroddiad) gyda’r Pwyllgor Gwaith ym Mai 2018 wedi cefnogi mewn egwyddor argymhelliad i gael gwared ag annedd y Ffridd a’r 41 acer drwy eu gwerthu ar y farchnad agored gyda’r arian cyfalaf a dderbynnir yn cael ei glustnodi ar gyfer datblygu cyfleusterau’r canolfannau hamdden presennol. Mae Swyddogion yn parhau i fod o’r farn amodol mai’r penderfyniad hwn yw’r un cywir a’i fod yn darparu cyfle i fuddsoddi mewn cyfleusterau hamdden lleol er mwyn gallu sicrhau manteision llesiant ac iechyd ehangach.   

 

Dygodd y Rheolwr Busnes Gwasanaeth (Rheoleiddio a Datblygiad Economaidd) sylw at y ffaith bod rhaid i’r Cyngor Sir, o ystyried y sensitifrwydd sydd ynghlwm â’r broses o gael gwared ar ased, sicrhau bod yr holl brosesau o’r fath felly yn gadarn, yn drylwyr ac yn cydymffurfio’n gyfan gwbl â gofynion statudol. Rhaid i effaith y cais gael ei asesu’n ddigonol yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol ac fe argymhellir y dylai’r swyddogion, fel rhan o’r cam nesaf, ystyried a pharatoi’r asesiadau effaith angenrheidiol ynghyd ag ymgymryd ag ymarfer ymgynghori cyhoeddus pellach. Mae’r rhain yn ofynion statudol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth lawn â’r ddeddfwriaeth. Yna, bydd adroddiad llawn yn dod yn ôl i’r Pwyllgor Gwaith fel y gall ddod i benderfyniad terfynol ar y mater.   

 

Penderfynwyd  -

 

           Nodi cynnwys yr adroddiad a’r ymatebion a gafwyd i’r prosesau ymgynghori hyd yma.

           Llwyr gefnogi a chymeradwyo argymhelliad y Gwasanaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd i ymgymryd â’r gwaith o baratoi asesiadau effaith pellach yn gwbl unol â gofynion y ddeddfwriaeth berthnasol.

           Cefnogi a chymeradwyo cyfnod pellach o ymgynghori â’r cyhoedd.