Mater - cyfarfodydd

Applications Arising

Cyfarfod: 06/11/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 7)

7 Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 692 KB

7.1  OP/2019/5 – Huws Grey, Stryd y Bont , Llangefni

 

7.2  FPL/2019/226 – Fronwen, Niwbwrch

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

7.1       OP/2019/5 - Cais amlinellol ar gyfer dymchwel yr adeiladau presennol ynghyd â chodi 52 annedd fforddiadwy gyda datblygiadau cysylltiedig ynghyd â manylion llawn am y fynedfa i gerbydau ar dir ger Huws Grey, Stryd y Bont, Llangefni

 

Penderfynwyd gohirio’r drafodaeth ar y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac am y rheswm a roddwyd.

 

7.2       FPL/2019/226 - Cais llawn ar gyfer codi 3 chaban gwyliau, creu trac mynediad newydd, diwygio mynedfa bresennol ynghyd â gosod gwaith paced ar gyfer trin carthffosiaeth ar dir yn Fronwen, Niwbwrch.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd tybir ei fod yn dderbyniol dan ddarpariaethau Polisi TWR3. (Ni wnaeth y Cynghorydd Bryan Owen bleidleisio ar y mater).

 

Yn unol â’r gofynion yng Nghyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn i’r Swyddogion gael cyfle i baratoi adroddiad ar y rheswm a roddwyd dros gymeradwyo’r cais.

Cofnodion:

 

7.1 OP/2019/5 - Cais cynllunio amlinellol ar gyfer dymchwel yr adeiladau presennol ynghyd â chodi 52 o anheddau fforddiadwy gyda datblygiadau cysylltiedig ynghyd â  manylion llawn y fynedfa i gerbydau ar dir ger Huws Gray, Stryd y Bont, Llangefni      

 

Adroddwyd ar y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod safle'r cais ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor. Yn y cyfarfod o’r Pwyllgor a gynhaliwyd ar 2 Hydref, 2019, penderfynwyd bod angen ymweld â’r safle a gwnaed hynny wedyn ar 16 Hydref 2019.

 

Gan ei bod wedi datgan diddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas â’r  cais, gadawodd y Cynghorydd Nicola Roberts (Cadeirydd) y cyfarfod pan gafodd y mater ei gyflwyno. Cadeiriodd y Cynghorydd Richard Owain Jones (Is-Gadeirydd) y cyfarfod ar gyfer yr eitem.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai gohirio ystyried y cais oedd argymhelliad y Swyddog bellach, a hynny oherwydd bod materion technegol wedi codi.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes, ac eiliodd y Cynghorydd Bryan Owen, y dylid gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.

 

7.2 FPL/2019/226 - Cais llawn ar gyfer lleoli tri siale gwyliau, ffurfio trac mynediad newydd, newidiadau i fynediad cyfredol ynghyd â gosod gwaith trin newydd ar dir yn Fronwen, Niwbwrch.   

 

Adroddwyd ar y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod wedi ei alw i mewn i'r pwyllgor gan Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod ar 2 Hydref, 2019 penderfynodd y Pwyllgor ymweld â'r safle a gwnaed hynny wedyn ar 16 Hydref, 2019.  

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod cais blaenorol i leoli tri siale gwyliau ac i greu trac  mynediad newydd yn y lleoliad wedi ei wrthod ym mis Mehefin, 2019 ar y sail nad oedd y datblygiad yn cydymffurfio â Pholisi TWR3 (Safleoedd Carafanau Sefydlog a Siales a Gwersylla Amgen Parhaol) a Pholisi PS4 (Trafnidiaeth Gynaliadwy, Datblygu a Hygyrchedd) oherwydd ystyrir ei fod mewn lleoliad ynysig anghynaliadwy yn y cefn gwlad agored a hefyd oherwydd na chredir ei fod wedi ei leoli'n dda nac o ansawdd uchel. Ystyriwyd ymhellach nad oedd gan y cynnig gwreiddiol lain welededd ddigonol ar gyfer y fynedfa  arfaethedig, a hynny’n groes i ofynion polisi. Mae'r cais hwn yn cynnwys cynllun i wella’r llain welededd ac mae'r Adain Briffyrdd wedi cadarnhau bod y cynllun hwnnw’n dderbyniol. Y materion cynllunio allweddol wrth ystyried y cais felly, fel o’r blaen, yw cynaliadwyedd y datblygiad dan ddarpariaethau Polisi PS4 ac a ellir ystyried ei fod yn ddatblygiad o safon uchel o dan ddarpariaethau Polisi TWR3.

 

Dywedodd y Swyddog fod Polisi PS4 yn nodi y bydd datblygiadau’n cael eu lleoli er mwyn lleihau'r angen i deithio, yn enwedig mewn cerbydau modur. Mae Polisi TWR 3 yn cefnogi datblygiadau twristiaeth ar yr amod eu bod o ansawdd uchel o ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad. Nid yw'r cynnig fel y cyflwynwyd ef yn cynnwys unrhyw gyfleusterau cysylltiedig ac eithrio'r siales eu hunain. Mae'r CCA drafft ar Gyfleusterau a Llety Twristiaeth yn nodi’n eglur  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7