Mater - cyfarfodydd

Gweddill y Ceisiadau

Cyfarfod: 06/11/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 12)

12 Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 1000 KB

12.1  OP/2019/14 – Gelli Aur, Brynsiencyn

 

12.2  DEM/2019/14 – Ysgol Gynradd Llaingoch, Ffordd Ynys Lawd, Caergybi

 

12.3  FPL/2019/207 – Cyn safle Tafarn y Marquis, Rhosybol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

12.1  OP/2019/14 - Cais amlinellol ar gyfer codi annedd gyda’r holl faterion wedi cadw'n ôl ar dir ger Gelli Aur, Brynsiencyn

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys ynddo ac ar yr amod hefyd na cheir unrhyw sylwadau sy’n codi unrhyw faterion newydd cyn i’r cyfnod cyhoeddusrwydd ddod i ben.

 

12.2 DEM/2019/14 - Cais i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer dymchwel yr ysgol bresennol yn Ysgol Gynradd Llaingoch, Ffordd Ynys Lawd, Caergybi

 

Penderfynwyd bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn rhoi caniatâd ymlaen llaw yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys ynddo ac ar yr amod hefyd bod y manylion sydd wedi eu cynnwys yn y Cynllun Rheoli Amgylcheddol ar gyfer Gwaith Dymchwel (DEMP) a’r Cynllun Rheoli Traffig yn ystod y Gwaith Dymchwel (DTEMP) yn dderbyniol i’r Awdurdod Cynllunio Lleol.

 

12.3 FPL/2019/207 - Cais llawn ar gyfer codi 15 o anheddau yn cynnwys 8 annedd fforddiadwy ynghyd â chreu mynedfa newydd a datblygiadau cysylltiedig ar safle’r hen Marquis Inn, Rhosybol

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y swyddog gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys ynddo a’r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod ac yn amodol hefyd ar gytundeb Adran 106 mewn perthynas â chyfraniad i’r isadeiledd, tai fforddiadwy a’r gofynion o ran llecynnau agored.  

 

Cofnodion:

12.1 OP / 2019/14 – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd gyda'r holl faterion wedi'u cadw’n ôl ar dir ger Gelli Aur, Brynsiencyn   

 

Adroddwyd ar y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y tir yn eiddo i'r Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod safle’r cais yn ddarn o dir gwag rhwng 2 annedd ar stad Trefenai, Brynsiencyn. Mae amlinelliad o faint yr annedd o ran terfynau uchaf ac isaf wedi'i ddarparu fel rhan o'r cais ac os caiff y cais ei gymeradwyo, rhoddir amod ar y caniatâd (amod 08) i gyfyngu ar hyd a lled yr eiddo i'r meintiau a ddangosir ar y cynllun safle er mwyn  sicrhau bod y datblygiad yn cydymffurfio â’r canllawiau perthnasol ynghylch pellter o eiddo cyfagos. Dywedodd y Swyddog fod ymgyngoreion yn fodlon â'r cynnig ac wedi rhoi cymeradwyaeth amodol a chadarnhaodd hefyd fod yr Adain Ddraenio wedi cyflwyno sylwadau safonol ers hynny ynghylch y system ddraenio ar y safle. Er na dderbyniwyd unrhyw sylwadau hyd yma, nid yw'r cyfnod ar gyfer derbyn sylwadau yn dod i ben tan 6 Tachwedd; felly ar yr amod na dderbynnir unrhyw sylwadau sy'n codi materion newydd cyn i'r cyfnod cyhoeddusrwydd ddod i ben, yr argymhelliad yw cymeradwyo'r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams, ac eiliodd y Cynghorydd Eric Jones, y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a chyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad a chyhyd na dderbynnir sylwadau sy'n codi materion newydd cyn i'r cyfnod cyhoeddusrwydd ddod i ben.

 

12.2 DEM / 2019/14 - Cais i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel yr ysgol bresennol yn Ysgol Gynradd Llaingoch, Ffordd Ynys Lawd, Caergybi.

 

Adroddwyd ar y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn ymwneud â thir sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu, o dan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu a Ganiateir yn Gyffredinol) 1995, nad oes angen caniatâd cynllunio i ddymchwel adeiladau ar yr amod bod y datblygwr yn gwneud cais yn gyntaf i'r Awdurdod Cynllunio Lleol i gadarnhau a oes angen ei gymeradwyaeth ymlaen llaw ar gyfer y dull dymchwel ac unrhyw waith adfer ar y safle. Yn unol â'r broses hon, rhoddwyd cyfnod o 28 diwrnod i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ystyried y gwaith dymchwel arfaethedig a chadarnhaodd yn ystod y cyfnod hwnnw y byddai angen caniatâd ymlaen llaw er mwyn cael Cynllun Rheoli Amgylcheddol ar gyfer y Gwaith Dymchwel (CRhAGD) sy'n manylu ar fesurau rheoli i leihau effeithiau’r gwaith dymchwel gan gynnwys ar fwynderau preswyl, a Chynllun Rheoli Amgylcheddol ar gyfer Trafnidiaeth Gwaith Dymchwel (CRhATGD) sy'n rhoi manylion am y mesurau rheoli i leihau effeithiau trafnidiaeth wrth ddymchwel yr adeilad. Mae'r cynlluniau hyn bellach wedi dod i law ac yn cael sylw. Darparwyd asesiad ecolegol fel rhan o'r cais sy'n cynnwys datganiad dull a chamau lliniaru ar gyfer dymchwel yr adeilad ar sail ragofalus rhag ofn bod ystlumod ar y safle. Mae'r manylion a gyflwynwyd yn yr asesiad  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12