Mater - cyfarfodydd

The Executive's Forward Work Programme

Cyfarfod: 25/11/2019 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 4)

4 Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 793 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod o Ragfyr, 2019 hyd at Gorffennaf, 2020 fel y’i chyflwynwyd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyriedadroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod rhwng Rhagfyr 2019 a Gorffennaf 2020 a nodwyd y newidiadau a ganlyn - 

 

           Eitemau Newydd

           Eitem 6 – Anableddau DysguTrawsnewid Cyfleoedd Gofal Dydd (Cam 1: Caniatâd ar gyfer y Broses Ymgynghori) (ar gyfer cyfarfod 27 Ionawr, 2019)

           Eitem 27 – Anableddau DysguTrawsnewid Cyfleoedd Gofal Dydd (Cam 2: Adrodd yn ôl ar ganlyniad y broses ymgysylltu ac opsiynau ar gyfer trawsnewid) (ar gyfer cyfarfod 27 Ebrill, 2020)     

 

           Cyfarfodydd Ychwanegol

 

           13 Ionawr, 2020 – cwblhau’r cynigion cychwynnol drafft ar gyfer cyllideb 2020/21 ar gyfer ymgynghori yn eu cylch

           2 Mawrth, 2020 – Y cynigion terfynol ar gyfer cyllideb 2020/21 ar gyfer eu hargymell i’r Cyngor Sir ynghyd ag eitemau eraill yn ymwneud â Chyllideb 2020/21.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaithoherwydd y llithriad yn amserlen Llywodraeth Cymru ar gyfer cyhoeddi’r setliadau amodol a therfynol i lywodraeth leol ar gyfer 2020/21, bod y llinell amser sydd ar gael i awdurdodau lleol yng Nghymru ddrafftio, ymgynghori ynghylch a gosod eu cyllidebau ar gyfer 2020/21, yn llawer iawn mwy heriol. Felly, oherwydd y cyfyngiadau amser yn ogystal â’r amserlen statudol sydd ar gael i gynghorau osod a chymeradwyo eu cyllidebau, mae’n debyg y bydd y broses o osod y gyllideb ar gyfer eleni’n wahanol i’r broses ar gyfer y blynyddoedd diwethaf gan olygu y bydd yn rhaid i’r Cyngor dderbyn y wybodaeth sydd ei hangen arno i redeg ei weithgareddau o’r flwyddyn ariannol newydd ym mis Ebrill, 2020 cyn gynted ag sy’n bosibl. 

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod o Ragfyr, 2019 hyd at Gorffennaf, 2020 fel y’i cyflwynwyd.