Mater - cyfarfodydd

Corporate Scorecard - Quarter 2, 2019/20

Cyfarfod: 25/11/2019 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 5)

5 Cerdyn Sgorio Corfforaethol – Chwarter 2, 2019/20 pdf eicon PDF 670 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd 

 

           Derbyn y Cerdyn Sgorio am Chwarter 2 2019/20 gan nodi’r meysydd  y mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli er mwyn sicrhau gwelliannau i’r dyfodol fel y’u crynhoir yn yr adroddiad, a

           Chefnogi’r mesurau lliniaru fel y’u hamlinellir yn yr adroddiad.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith – adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid yn ymgorffori’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 2, 2019/20.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Busnes Corfforaethol, bod Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus (MAC) penodol pellach mewn perthynas â Rheoli Gwastraff wedi cael eu cyflwyno gan Data Cymru ers i’r Pwyllgor Gwaith ystyried yr adroddiad ar gyfer Chwarter 1 y Cerdyn Sgorio ym mis Medi, 2019. Mae’r rhain yn cadarnhau mai’r Awdurdod hwn unwaith eto sydd â’r cyfraddau ailgylchu uchaf yng Nghymru sy’n ei roi ymysg y goreuon yn y byd o ran lefel y gwastraff domestig y mae’n ei ailgylchu. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at bwyntiau allweddol eraill yn adroddiad Chwarter 2 fel a ganlyn -

           Mae 85% o’r dangosyddion perfformiad yn parhau i berfformio uwchlaw’r targed neu o fewn goddefgarwch 5% o’u targedau sy’n cymharu’n ffafriol â’r sefyllfa yn Chwarter 2, 2018/19. Mae 5 o ddangosyddion yn tan-berfformio (yn ymddangos yn GOCH neu’n AMBR ar y Cerdyn Sgorio) yn y Gwasanaethau Tai, Plant a Chynllunio – yn yr adroddiad, nodir y rhesymau pam fod agweddau o’r gwasanaethau hyn yn tan-berfformio ac amlinellir y mesurau gwella sy’n cael eu gweithredu er mwyn codi perfformiad yn y chwarter nesaf.

           Mae lefelau presenoldeb yn y gwaith ar eu huchaf ers Chwarter 2 2017/18 ac yn ymddangos yn WYRDD gyda pherfformiad o 3.96 o ddiwrnodau wedi eu colli fesul gweithiwr ALlC yn erbyn targed o 4.48 o ddiwrnodau wedi eu colli fesul gweithiwr ALlC.

           Mae’r strategaeth ddigidol wedi parhau i gael ei gwireddu yn ystod Chwarter 2 gyda nifer y defnyddwyr cofrestredig wedi mwy na dyblu o gymharu â’r 5,000 a welwyd ar ddiwedd Chwarter 2, 2018/19.

           O ran rheolaeth ariannol, yn seiliedig ar wybodaeth perfformiad Chwarter 2, rhagamcenir y bydd gorwariant o £1.935m ar gyllideb refeniw’r Cyngor ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben ym mis Mawrth 2020 a hynny’n bennaf oherwydd y gorwariant yn y Gwasanaethau Oedolion o ganlyniad i’r cynnydd yn y galw am y gwasanaeth sydd yn heriol ac yn anodd i’w ragweld. Ceir gwybodaeth fanylach am hyn yn yr adroddiad ar fonitro’r gyllideb.

           Ar y cyfan, mae’r adroddiad yn galonogol iawn ac yn adlewyrchu ymrwymiad y Cyngor i wella ei wasanaethau’n barhaus ac i gyflawni ei amcanion.

 

Roedd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad yn cytuno â dadansoddiad yr Aelod Portffolio a dywedodd fod y Cyngor, oherwydd ei ymagwedd tuag at reoli perfformiad, yn gallu dangos i ddinasyddion Ynys Môn ei fod yn awdurdod sy’n cyflawni ac y ceir tystiolaeth benodol yn hyn o beth oherwydd mai’r awdurdod hwn sy’n perfformio orau yng Nghymru ac ym Mhrydain am ailgylchu.

 

Soniodd y Cynghorydd Dylan Rees, Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol am y drafodaeth a gafwyd yn y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 21 Tachwedd, 2019 ar Ch2 y Cerdyn Sgorio gan ddweud fod y Pwyllgor yn croesawu canlyniadau’r Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus gan Data Cymru mewn perthynas â Rheoli Gwastraff yn nodi eu bod, unwaith eto, yn rhoi Ynys Môn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5