Mater - cyfarfodydd

Capital Budget Monitoring - Quarter 2, 2019/20

Cyfarfod: 25/11/2019 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 7)

7 Monitro’r Gyllideb Gyfalaf – Chwarter 2, 2019/20 pdf eicon PDF 658 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd -

           Nodi’r cynnydd o ran gwariant a derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf yn Chwarter 2 2019/20.

           Cymeradwyo dyrannu £75,000 yn ychwanegol tuag at gynllun cyfalaf Neuadd y Farchnad yn unol â pharagraff 3.1.1 yr adroddiad.

           Cymeradwyo £90,000 o fenthyca digefnogaeth i uwchraddio offer ffitrwydd yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur yn unol â pharagraff 3.3.1 yr adroddiad.

           Cymeradwyo £20,000 o gyllid cyfatebol ychwanegol ar gyfer cynllun Lliniaru Llifogydd  ym Mhentraeth yn unol â pharagraff 3.1.2 yr adroddiad.

           Cymeradwyo £8,000 o gyllideb cyfatebol ychwanegol ar gyfer cynllun cae 3G yng Nghanolfan Hamdden David Hughes yn unol â pharagraff 3.3.2 yr adroddiad.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaithadroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad y Gyllideb Gyfalaf am ail chwarter blwyddyn ariannol 2019/20.

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid bod gwariant gwirioneddol y gronfa gyffredinol at ddiwedd yr ail chwarter yn 120% o’r gyllideb a broffiliwyd er mai dim ond 22% o’r gyllideb flynyddol sydd wedi’i wario hyd yma. Mae hyn yn gyson â’r patrwm arferol, lle mae’r rhan fwyaf o’r gwariant ar gynlluniau cyfalaf yn digwydd tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Mae gwaith ar rai cynlluniau cyfalaf wedi hen ddechrau gyda’r rhan fwyaf o’r gyllideb a broffiliwyd ar gyfer Chwarter 2 wedi’i gwario tra bod eraill y mae’r gwariant wedi ei broffilio tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol eto i gychwyn. Mae nifer o gynlluniau’n cael eu hariannu drwy grantiau cyfalaf yn 2019/20 ac mae’r adroddiad yn darparu diweddariad ar statws y cynlluniau hynny. Mae ymrwymiadau ariannu ychwanegol y gofynnir am ganiatâd ar eu cyfer yn cynnwys yr isod

           Mae’r cyfrif terfynol ar gyfer atgyweirio Neuadd y Farchnad wedi’i gytuno gyda’r contractwr ac wedi arwain at yr angen am £75k ychwanegol a fyddai’n cael ei ariannu o dderbynebion cyfalaf.

           Mewn perthynas â Chynllun Lliniaru Rhag Llifogydd Pentraeth, bydd angen i’r Cyngor ddarparu cyllid cyfatebol ychwanegol o £20k (cyfanswm y cyllid cyfatebol yn £50k yn hytrach na £30k) i’w ariannu o dderbynebion cyfalaf.

           Mae’r Cyngor wedi llwyddo i gael grant o £40k gan Lleoedd ar gyfer Chwaraeon (‘Places for Sport’) i uwchraddio’r offer ffitrwydd yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur. Cyfanswm cost y cynllun yw £130k a bydd y Cyngor yn talu’r £90k sy’n weddill drwy fenthyciad di-gefnogaeth.

           Mae’r Cyngor hefyd wedi llwyddo i sicrhau grant gwerth £72k o’r Gronfa Gydweithredol i addasu’r cwrt tennis yng Nghanolfan Hamdden David Hughes yn gae 3G. Cyfanswm cost y cynllun yw £80k a bydd angen i’r Cyngor gyfrannu £8k o arian cyfatebol a hynny o dderbyniadau cyfalaf.