8 Monitro Cyllideb y CRT – Chwarter 2, 2019/20 PDF 700 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd nodi’r canlynol -
• Y sefyllfa a nodir o ran perfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 2 2019/20.
• Yr alldro rhagdybiedig ar gyfer 2019/20.
Cofnodion:
Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) am Chwarter 2 2019/20.
Adroddodd y Deilydd Portffolio Cyllid bod y sefyllfa ariannol refeniw ar gyfer Chwarter 2 yn dangos gorwariant o £71k. Mae’r rhagolygon o ran incwm yn parhau i fod £75k yn well na’r gyllideb wreiddiol, a rhagwelir yn awr y bydd £75k yn well na’r gyllideb wreiddiol (ceir manylion yn Atodiad A). Mae gwariant cyfalaf £1.791k yn is na’r gyllideb a broffiliwyd. Mae’r gwariant a ragwelir £190k yn uwch na’r gyllideb (ceir manylion yn Atodiad B). Mae’r diffyg a ragwelir (yn cyfuno refeniw a chyfalaf) £40k yn uwch na’r gyllideb (o gymharu â £67k yn adroddiad Ch1) oherwydd gwariant cyfalaf uwch na’r gyllideb.
Penderfynwyd nodi’r canlynol -
• Y sefyllfa a nodir o ran perfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 2 2019/20.
• Yr alldro rhagdybiedig ar gyfer 2019/20.