10 Ffederaleiddio Ysgol Goronwy Owen ac Ysgol Moelfre PDF 416 KB
Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau’n derfynol y cynnig i ffederaleiddio Ysgol Goronwy Owen ac Ysgol Moelfre.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i’r cynnig i ffederaleiddio Ysgol Goronwy Owen ac Ysgol Moelfre.
Adroddodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc bod rhybudd statudol ar y cynnig i ffederaleiddio Ysgol Goronowy Owen ac Ysgol Moelfre wedi cael ei gyhoeddi ar 30 Medi 2019, ar ôl derbyn cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith ac yn unol â gofynion deddfwriaethol, ac yn dilyn hynny cynhaliwyd cyfnod gwrthwynebu statudol o 28 diwrnod ar y cynnig. Yn yr un modd â’r ymgynghoriad statudol blaenorol, ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau yn ystod y cyfnod hwn ac o ganlyniad argymhellir bod y cynnig i ffederaleiddio’r ddwy ysgol yn cael ei gadarnhau yn derfynol.
Penderfynwyd cadarnhau’n derfynol y cynnig i ffederaleiddio Ysgol Goronwy Owen ac Ysgol Moelfre.