4 Cyllideb Refeniw Ddrafft 2020/21 PDF 571 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD: -
· Cymeradwyo'r addasiadau i'r Gyllideb a gynhwyswyd yn y Gyllideb Ddigyfnewid fel y nodir ym mharagraffau 3 i 7 o'r adroddiad yn Atodiad 1;
·
Cymeradwyo'r gyllideb ddigyfnewid ar gyfer 2020/21, sef
£142.203m, a
dylai hyn fod yn sail i gyllideb refeniw 2020/21;
· Ymgynghori â'r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill ar gynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2020/21 o rhwng 4.5% a 5%;
· Ar ôl y cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor a gweithredu’r arbedion, os oes unrhyw arian dros ben ar gael, dylai'r Pwyllgor Gwaith benderfynu sut i ddefnyddio’r arian dros ben hwnnw (fel y nodwyd ym mharagraff 10.5);
· Y dylai’r Pwyllgor Gwaith ymofyn barn y cyhoedd ar y strategaeth gyllidebol arfaethedig.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth
(Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a oedd yn ymgorffori'r Gyllideb
Refeniw ddrafft ar gyfer 2020/21 i'w ystyried gan y Pwyllgor
Gwaith.
Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid, er bod y sefyllfa
gyllidebol ar gyfer 2020/21 yn well na'r disgwyl oherwydd setliad
dros dro uwch gan Lywodraeth Cymru, mae'r amgylchiadau ariannol yn
parhau i fod yn heriol. Nid yw’r setliad, mewn termau real,
ond yn cymharu â lefel darpariaeth Llywodraeth Cymru yn
2012/13. Adroddodd ymhellach fod Llywodraeth Cymru yn tybio y bydd
awdurdodau lleol yng Nghymru yn codi’r Dreth Gyngor 7.1% er
mwyn cydbwyso’u cyllidebau er bod setliad gwell wedi'i roi.
Mae cronfeydd wrth gefn y Cyngor wedi gostwng oherwydd fe’u
defnyddiwyd i gwrdd â phwysau ariannol mewn gwasanaethau
statudol lle mae’r galw’n parhau i gynyddu, megis y
Gwasanaethau Oedolion ac Addysg. Roedd yr Aelod Portffolio o'r farn
y gallai bod angen adolygu cyllideb sylfaenol y gwasanaethau hyn.
Dywedodd ymhellach ei fod wedi cynghori’r Pwyllgor Sgriwtini
Corfforaethol a gynhaliwyd yn y bore, a’i fod yn dymuno dweud
yn yr un modd wrth y Pwyllgor Gwaith, fod angen cymryd agwedd
ddarbodus o ran gwneud argymhellion mewn perthynas â
Chyllideb Refeniw 2020/21.
Cafodd y Pwyllgor amlinelliad manwl gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth
(Adnoddau) / Swyddog Adran 151 o’r rhannau yn yr adroddiad a
oedd yn ymwneud â’r gyllideb refeniw arfaethedig ar
gyfer 2020/21. Amlygwyd ac adroddwyd ar y materion canlynol:
-