Mater - cyfarfodydd

Applications Arising

Cyfarfod: 04/12/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 7)

7 Ceisiadau yn Codi pdf eicon PDF 662 KB

7.1  - OP/2019/5 – Huws Gray, Stryd y Bont, Llangefni

7.2   - FPL/2019/226 – Fronwen, Newborugh

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

7.1      OP/2019/5 - Cais amlinellol ar gyfer dymchwel yr adeiladau presennol ynghyd â chodi 52 annedd fforddiadwy gyda datblygiadau cysylltiedig ynghyd â manylion llawn am y fynedfa i gerbydau ar dir ger Huws Grey, Stryd y Bont, Llangefni

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac i ddirprwyo i Swyddogion yr hawl i ryddhau’r penderfyniad unwaith bod mecanwaith (cytundeb cyfreithiol/taliadau/cyfuniad o’r ddau) mewn lle i sicrhau y bydd modd cael y taliadau sy’n ofynnol dan ymrwymiad cynllunio cyn rhyddhau’r caniatâd cynllunio.

 

7.2      FPL/2019/226 - Cais llawn ar gyfer codi 3 chaban gwyliau, creu trac mynediad newydd, diwygio mynedfa bresennol ynghyd â gosod gwaith paced ar gyfer trin carthffosiaeth ar dir yn Fronwen, Niwbwrch.

 

          PENDERFYNWYD ail-gadarnhau’r penderfyniad i gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.

 

Cofnodion:

7.1 OP/2019/5 - Cais amlinellol ar gyfer dymchwel yr adeiladau presennol ynghyd â chodi 52 annedd fforddiadwy gyda datblygiadau cysylltiedig ynghyd â manylion llawn am y fynedfa i gerbydau ar dir ger Huws Gray, Stryd y Bont, Llangefni

 

Roedd y Cadeirydd, y Cynghorydd Nicola Roberts, wedi datgan diddordeb personol a rhagfarnus yn y cais ond siaradodd fel Aelod Lleol. Gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais a ddilynodd. Cadeiriwyd y cyfarfod gan yr Is-gadeirydd yn ystod yr eitem hon.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod safle’r cais wedi’i leoli ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2019, penderfynwyd cynnal ymweliad safle ac yn dilyn hynny ymwelwyd â’r safle ar 16 Hydref 2019.

 

Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts, Aelod Lleol, bod y tri aelod lleol wedi cynnal trafodaethau gyda phreswylwyr lleol a’r datblygwr ynghylch y cais hwn. Dywedodd fod cytundeb ynghylch yr angen am dai fforddiadwy yn yr ardal a gwnaethpwyd cytundeb llafar (gyda chadarnhad ysgrifenedig i ddilyn) y bydd y fynedfa i’r safle o Stryd y Bont ac na fydd mynedfa i’r safle drwy Stad Tan Capel. Bydd mynediad i gefn yr anheddau yn Stad Tan Capel yn cael ei gadw a chafwyd sicrwydd y bydd y cais cynllunio llawn, pan y’i cyflwynir i’r Awdurdod Cynllunio, yn cynnwys tai ger yr anheddau yn Stad Tan Capel ac nid fflatiau.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Dywedodd Mr Jamie Brandshaw (o blaid y cais) fod y cais am 52 o anheddau fforddiadwy gyda 36 o dai a 16 o fflatiau ar dir segur o fewn ffin ddatblygu Llangefni a’i fod mewn lleoliad hynod o hygyrch. Nododd, er bod y Swyddogion Cynllunio’n cefnogi’r cais, mynegwyd pryderon yn lleol ynghylch diogelwch y briffordd. Fodd bynnag, roedd o’r farn bod mynediad digonol i’r safle o’r briffordd a chynigir gwneud gwelliannau i’r rhwydwaith priffyrdd lleol (cyflwynwyd tystiolaeth fanwl fel rhan o’r cais), ac mae’r Awdurdod Priffyrdd yn fodlon gyda’r rhwydwaith priffyrdd a gynigir. Codwyd pryderon hefyd ynghylch materion edrych drosodd a allai gael effaith ar fwynderau preswylwyr lleol, ond mae’n amlwg o’r cynlluniau a gyflwynwyd bod digon o bellter i liniaru’r effaith andwyol ar breifatrwydd ac ni fyddai’r gweithgarwch ar y safle yn cael effaith andwyol ar eiddo cyfagos. Cynhaliwyd Astudiaeth Ecoleg fanwl ar y safle a ddaeth i’r casgliad na fyddai unrhyw effaith niweidiol ar rywogaethau a warchodir ac y gellir rhoi sylw i unrhyw effaith ar rywogaethau eraill drwy gryfhau mesurau lliniaru. Dywedodd y byddai datblygu’r safle yn gwella’r tir segur; bydd cynllun plannu coed wedi’i ddylunio’n ofalus yn gwella’r safle. Mae’r Swyddog Ecoleg a CNC yn fodlon â’r cynllun. Cyfeiriodd at yr effaith yn ystod cyfnod adeiladu’r datblygiad a nododd fod adroddiad y Swyddog yn cynnwys amod ynghylch yr amseroedd pryd y caniateir gwneud gwaith adeiladu a defnyddio peiriannau ar y safle. Ychwanegodd Mr Bradshaw fod y datblygwr wedi ceisio ymgysylltu gyda thrigolion lleol cyn ac ar ôl cyflwyno’r cais ac ystyrir bod hynny’n effeithiol ac yn deg. Mae’r datblygiad ar gyfer tai  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7