Mater - cyfarfodydd

Gweddill y Ceisiadau

Cyfarfod: 04/12/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 12)

12 Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 3 MB

12.1 –  DEM/2019/2 – Bryn Glas Close, Caergybi

12.2 –  DEM/2019/3 – Bryn Glas Close, Caergybi

12.3 –  DEM/2019/4 – Ffordd Corn Hir & Pennant, Llangefni

12.4 –  DEM/2019/5 – Ffordd Lligwy, Moelfre

12.5 –  DEM/2019/6 – Craig y Don, Amlwch

12.6 –  DEM/2019/7 – Hampton Way, Llanfaes

12.7 –  DEM/2019/8 – Maes Llwyn, Amlwch

12.8 –  DEM/2019/9 – Maes Hyfryd, Llangefni

12.9 –  DEM/2019/10 - New Street, Biwmares

12.10 – DEM/2019/11- Pencraig, Llangefni

12.11 – DEM/2019/12 – Tan yr Efail, Caergybi

12.12 – DEM/2019/13 – Thomas Close, Biwmares

12.13 – DEM/2019/15 – Maes yr Haf, Caergybi

12.14 – DEM/2019/16 – Pencraig Mansion, Llangefni

12.15 – FPL/2019/289 – Ysgol Gynradd Llaingoch, Lôn Ynys Lawd, Caergybi

12.16 – FPL/2019/234 – Cae Eithin, Malltraeth

12.17 – TPO/2019/17 – Cronfa Ddŵr Porthaethwy

12.18 – FPL/2019/204 – Ponc y Rhedyn, Benllech

12.19 – FPL/2019/249 – Y Bedol, Tyn Rhos, Penysarn

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

12.1      DEM/2019/2 - Cais i bennu os oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer dymchwel y modurdai ar dir yn Bryn Glas Close, Caergybi.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.

 

12.2      DEM/2019/3 - Cais i bennu os oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer dymchwel y modurdai ar dir yn Bryn Glas Close, Caergybi.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.

 

12.3      DEM/2019/4 - Cais i bennu os oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer dymchwel y modurdai (tri bloc ar wahân) ar dir yn Ffordd Corn Hir a Pennant, Llangefni.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.

 

12.4      DEM/2019/5 - Cais i bennu os oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer dymchwel y modurdai ar dir yn Ffordd Lligwy, Moelfre, Llangefni.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.

 

12.5      DEM/2019/6 - Cais i bennu os oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer dymchwel y modurdai ar dir yn Craig y Don, Amlwch.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.

 

12.6      DEM/2019/7 - Cais i bennu os oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer dymchwel y modurdai ar dir yn Hampton Way, Biwmares.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.

 

12.7      DEM/2019/8 - Cais i bennu os oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer dymchwel y modurdai ar dir yn Maes Llwyn, Amlwch.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.

 

12.8      DEM/2019/9 - Cais i bennu os oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer dymchwel y modurdai ar dir yn Maes Hyfryd, Llangefni.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.

 

12.9      DEM/2019/10 - Cais i bennu os oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer dymchwel y modurdai ar dir yn New Street, Biwmares.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.

 

12.10   DEM/2019/11 - Cais i bennu os oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer dymchwel y modurdai ar dir yn Pencraig, Llangefni.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.

 

12.11   DEM/2019/12 - Cais i bennu os oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer dymchwel y modurdai ar dir yn Tan yr Efail, Caergybi.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.

 

12.12   DEM/2019/13 - Cais i bennu os oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer dymchwel y modurdai ar dir yn Thomas Close, Biwmares.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.

 

12.13   DEM/2019/15 - Cais i bennu os oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer dymchwel y modurdai ar dir yn Maes yr Haf, Caergybi.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.

 

12.14   DEM/2019/16 - Cais i bennu os oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer dymchwel y modurdai ar dir yn Pencraig Mansion, Llangefni.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.

 

12.15   FPL/2019/289 – Cais llawn ar gyfer codi ffens 2.4 metr o uchder am gyfnod dros dro yn Ysgol Gynradd Llaingoch, Ffordd Ynys Lawd, Caergybi.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.16   FPL/2019/234 - Cais llawn ar gyfer diwygio'r mynedfa  ...  view the full Penderfyniad text for item 12

Cofnodion:

12.1  DEM/2019/2 – Cais i bennu os oes angen caniatâd blaenorol ar gyfer dymchwel y modurdai ar dir yn Bryn Glas Close, Caergybi

 

Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais ar dir sy’n berchen i’r Cyngor.   

 

Rhoddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu amlinelliad o’r cais i’r Pwyllgor a dywedodd fod y cais yn cael ei gyflwyno o dan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygiad Cyffredinol a Ganiateir) 1995 ar gyfer dymchwel adeiladau. O dan y Gorchymyn, nid oes angen caniatâd cynllunio i ddymchwel adeiladau (gwaith a elwir yn ddatblygiad a ganiateir) ar yr amod bod y datblygwr yn gwneud cais yn gyntaf i'r Awdurdod Cynllunio Lleol i gadarnhau a oes angen ei gymeradwyaeth ymlaen llaw ar gyfer y dull dymchwel ac unrhyw waith i adfer y safle. Yn dilyn dymchwel y garejys, bydd y safle’n cael ei glirio a bydd unrhyw waith angenrheidiol yn cael ei wneud ar y ffiniau. Mae angen i’r Cynllun Rheoli Amgylcheddol ar gyfer y Gwaith Dymchwel a’r Cynllun Rheoli Traffig ar gyfer y Gwaith Dymchwel gynnwys mesurau er mwyn lleihau effeithiau’r gwaith dymchwel ar amwynderau trigolion lleol. Nodwyd bod angen Datganiad o fethodoleg ecolegol a ddylai nodi presenoldeb posib rhywogaethau anfrodorol ymledol ynghyd â rhaglen i'w symud os ydynt yn bresennol. Dylai'r datganiad methodoleg hefyd gynnwys manylion mesurau rhagofalol y dylid eu cymryd i ystyriaeth ar gyfer presenoldeb posib rhywogaethau a warchodir. Nododd fod Aelod Lleol, y Cynghorydd R Ll Jones wedi mynegi bod angen ymgynghori â thenantiaid y garejys cyn i’r holl garejys gael eu dymchwel.    

 

Holodd yr Is-gadeirydd a yw’r Rhybudd angenrheidiol wedi’i roi i denantiaid y garejys. Ymatebodd y Rheolwr Rheoli Datblygu, fel rhan o gais o'r fath, bod yn rhaid i’r ymgeisydd osod Rhybudd ar y safle yn hysbysu am y bwriad i ddymchwel y garejys ynghyd â rhybudd statudol fel rhan o’r broses gynllunio fel y gellir cyflwyno unrhyw sylwadau mewn perthynas â’r cais. Nododd fod yr Adran Eiddo wedi ymateb ac nad oes unrhyw ymgynghoriad ffurfiol wedi’i gynnal â thenantiaid y garejys; mae trafodaeth ar lafar wedi’i chynnal gyda thenantiaid garejys Caergybi.   

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes y dylid gohirio gwneud penderfyniad ar y cais gan nad oes ymgynghoriad wedi’i gynnal gyda thenantiaid y garejys. Dywedodd hefyd fod angen cynnal trafodaeth pam fod angen dymchwel y garejys hyn gan fod y tenantiaid yn talu rhent, sy’n incwm i’r Awdurdod. Ymatebodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod adroddiad strwythurol wedi’i wneud gan yr Adran Eiddo fel rhan o’r cais hwn ac ystyrir mai’r opsiwn gorau yw dymchwel y garejys hyn gan eu bod mewn cyflwr gwael.   

 

Eiliodd y Cadeirydd y cynnig i ohirio gwneud penderfyniad ar y cais fel y gellir ymgynghori’n ffurfiol â thenantiaid ac aelodau etholedig mewn perthynas â dymchwel y garejys.

 

Dywedodd y Cadeirydd hefyd bod angen hysbysu’r Deilydd Portffolio perthnasol a’r Adran Eiddo bod angen gwybodaeth bellach ar y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion o ran y broses yr ymgymerwyd â hi o ran y penderfyniad arfaethedig i ddymchwel y garejys cyn y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12