12 Gweddill y Ceisiadau PDF 3 MB
12.1 – DEM/2019/2 – Bryn Glas Close, Caergybi
12.2 – DEM/2019/3 – Bryn Glas Close, Caergybi
12.3 – DEM/2019/4 – Ffordd Corn Hir & Pennant, Llangefni
12.4 – DEM/2019/5 – Ffordd Lligwy, Moelfre
12.5 – DEM/2019/6 – Craig y Don, Amlwch
12.6 – DEM/2019/7 – Hampton Way, Llanfaes
12.7 – DEM/2019/8 – Maes Llwyn, Amlwch
12.8 – DEM/2019/9 – Maes Hyfryd, Llangefni
12.9 – DEM/2019/10 - New Street, Biwmares
12.10 – DEM/2019/11- Pencraig, Llangefni
12.11 – DEM/2019/12 – Tan yr Efail, Caergybi
12.12 – DEM/2019/13 – Thomas Close, Biwmares
12.13 – DEM/2019/15 – Maes yr Haf, Caergybi
12.14 – DEM/2019/16 – Pencraig Mansion, Llangefni
12.15 – FPL/2019/289 – Ysgol Gynradd Llaingoch, Lôn Ynys Lawd, Caergybi
12.16 – FPL/2019/234 – Cae Eithin, Malltraeth
12.17 – TPO/2019/17 – Cronfa Ddŵr Porthaethwy
12.18 – FPL/2019/204 – Ponc y Rhedyn, Benllech
12.19 – FPL/2019/249 – Y Bedol, Tyn Rhos, Penysarn
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
12.1 DEM/2019/2 - Cais i bennu os oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer dymchwel y modurdai ar dir yn Bryn Glas Close, Caergybi.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.
12.2 DEM/2019/3 - Cais i bennu os oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer dymchwel y modurdai ar dir yn Bryn Glas Close, Caergybi.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.
12.3 DEM/2019/4 - Cais i bennu os oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer dymchwel y modurdai (tri bloc ar wahân) ar dir yn Ffordd Corn Hir a Pennant, Llangefni.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.
12.4 DEM/2019/5 - Cais i bennu os oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer dymchwel y modurdai ar dir yn Ffordd Lligwy, Moelfre, Llangefni.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.
12.5 DEM/2019/6 - Cais i bennu os oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer dymchwel y modurdai ar dir yn Craig y Don, Amlwch.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.
12.6 DEM/2019/7 - Cais i bennu os oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer dymchwel y modurdai ar dir yn Hampton Way, Biwmares.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.
12.7 DEM/2019/8 - Cais i bennu os oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer dymchwel y modurdai ar dir yn Maes Llwyn, Amlwch.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.
12.8 DEM/2019/9 - Cais i bennu os oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer dymchwel y modurdai ar dir yn Maes Hyfryd, Llangefni.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.
12.9 DEM/2019/10 - Cais i bennu os oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer dymchwel y modurdai ar dir yn New Street, Biwmares.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.
12.10 DEM/2019/11 - Cais i bennu os oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer dymchwel y modurdai ar dir yn Pencraig, Llangefni.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.
12.11 DEM/2019/12 - Cais i bennu os oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer dymchwel y modurdai ar dir yn Tan yr Efail, Caergybi.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.
12.12 DEM/2019/13 - Cais i bennu os oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer dymchwel y modurdai ar dir yn Thomas Close, Biwmares.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.
12.13 DEM/2019/15 - Cais i bennu os oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer dymchwel y modurdai ar dir yn Maes yr Haf, Caergybi.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.
12.14 DEM/2019/16 - Cais i bennu os oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer dymchwel y modurdai ar dir yn Pencraig Mansion, Llangefni.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.
12.15 FPL/2019/289 – Cais llawn ar gyfer codi ffens 2.4 metr o uchder am gyfnod dros dro yn Ysgol Gynradd Llaingoch, Ffordd Ynys Lawd, Caergybi.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.16 FPL/2019/234 - Cais llawn ar gyfer diwygio'r mynedfa ... view the full Penderfyniad text for item 12
Cofnodion:
12.1 DEM/2019/2 – Cais i bennu os oes angen caniatâd blaenorol ar gyfer dymchwel y modurdai ar dir yn Bryn Glas Close, Caergybi
Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais ar dir sy’n berchen i’r Cyngor.
Rhoddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu amlinelliad o’r cais i’r Pwyllgor a dywedodd fod y cais yn cael ei gyflwyno o dan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygiad Cyffredinol a Ganiateir) 1995 ar gyfer dymchwel adeiladau. O dan y Gorchymyn, nid oes angen caniatâd cynllunio i ddymchwel adeiladau (gwaith a elwir yn ddatblygiad a ganiateir) ar yr amod bod y datblygwr yn gwneud cais yn gyntaf i'r Awdurdod Cynllunio Lleol i gadarnhau a oes angen ei gymeradwyaeth ymlaen llaw ar gyfer y dull dymchwel ac unrhyw waith i adfer y safle. Yn dilyn dymchwel y garejys, bydd y safle’n cael ei glirio a bydd unrhyw waith angenrheidiol yn cael ei wneud ar y ffiniau. Mae angen i’r Cynllun Rheoli Amgylcheddol ar gyfer y Gwaith Dymchwel a’r Cynllun Rheoli Traffig ar gyfer y Gwaith Dymchwel gynnwys mesurau er mwyn lleihau effeithiau’r gwaith dymchwel ar amwynderau trigolion lleol. Nodwyd bod angen Datganiad o fethodoleg ecolegol a ddylai nodi presenoldeb posib rhywogaethau anfrodorol ymledol ynghyd â rhaglen i'w symud os ydynt yn bresennol. Dylai'r datganiad methodoleg hefyd gynnwys manylion mesurau rhagofalol y dylid eu cymryd i ystyriaeth ar gyfer presenoldeb posib rhywogaethau a warchodir. Nododd fod Aelod Lleol, y Cynghorydd R Ll Jones wedi mynegi bod angen ymgynghori â thenantiaid y garejys cyn i’r holl garejys gael eu dymchwel.
Holodd yr Is-gadeirydd a yw’r Rhybudd angenrheidiol wedi’i roi i denantiaid y garejys. Ymatebodd y Rheolwr Rheoli Datblygu, fel rhan o gais o'r fath, bod yn rhaid i’r ymgeisydd osod Rhybudd ar y safle yn hysbysu am y bwriad i ddymchwel y garejys ynghyd â rhybudd statudol fel rhan o’r broses gynllunio fel y gellir cyflwyno unrhyw sylwadau mewn perthynas â’r cais. Nododd fod yr Adran Eiddo wedi ymateb ac nad oes unrhyw ymgynghoriad ffurfiol wedi’i gynnal â thenantiaid y garejys; mae trafodaeth ar lafar wedi’i chynnal gyda thenantiaid garejys Caergybi.
Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes y dylid gohirio gwneud penderfyniad ar y cais gan nad oes ymgynghoriad wedi’i gynnal gyda thenantiaid y garejys. Dywedodd hefyd fod angen cynnal trafodaeth pam fod angen dymchwel y garejys hyn gan fod y tenantiaid yn talu rhent, sy’n incwm i’r Awdurdod. Ymatebodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod adroddiad strwythurol wedi’i wneud gan yr Adran Eiddo fel rhan o’r cais hwn ac ystyrir mai’r opsiwn gorau yw dymchwel y garejys hyn gan eu bod mewn cyflwr gwael.
Eiliodd y Cadeirydd y cynnig i ohirio gwneud penderfyniad ar y cais fel y gellir ymgynghori’n ffurfiol â thenantiaid ac aelodau etholedig mewn perthynas â dymchwel y garejys.
Dywedodd y Cadeirydd hefyd bod angen hysbysu’r Deilydd Portffolio perthnasol a’r Adran Eiddo bod angen gwybodaeth bellach ar y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion o ran y broses yr ymgymerwyd â hi o ran y penderfyniad arfaethedig i ddymchwel y garejys cyn y ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12