Mater - cyfarfodydd

Schools Modernisation Programme - Llangefni Area

Cyfarfod: 20/01/2020 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 2)

2 Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Ardal Llangefni: Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ar Raglen Moderneiddion Ysgolion y Cyngor Sir mewn perthynas ag Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cymeradwyo’r cynnig iadleoli ac ehangu Ysgol Corn Hir ar safle arall i gymryd disgyblion Ysgol Bodffordd, cau Ysgol Bodffordd ac adolygu dalgylchoedd Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir” ac awdurdodi Swyddogion i gynnal ymgynghoriad statudol ar y cynnig.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc yn ymgorffori papur cynnig ar foderneiddio ysgolion yn ardal Llangefni, mewn perthynas ag Ysgol Corn Hir ac Ysgol Bodffordd. Roedd yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i gynnal ymgynghoriad statudol ar y cynnig i “adleoli ac ehangu Ysgol Corn Hir ar safle arall i gymryd disgyblion Ysgol Bodffordd, cau Ysgol Bodffordd ac adolygu dalgylchoedd Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir.”

 

Gadawodd y Cynghorydd Richard Dew y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar y mater hwn gan ei fod wedi datgan diddordeb personol a rhagfarnus yn y mater.

 

Cyflwynodd y Deilydd Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid yr adroddiad a oedd yn amlinellu’r cynnig i foderneiddio ysgolion yn ardal Llangefni, ac a oedd yn ymwneud yn benodol ag Ysgol Corn Hir ac Ysgol Bodffordd. Cyfeiriodd at y penderfyniad a wnaed ym mis Mai 2019, a oedd yn benderfyniad o eiddo’r Cyngor yn unig, drwy’r Prif Weithredwr a’r Pwyllgor Gwaith, i ddiddymu’r penderfyniadau gwreiddiol mewn perthynas â moderneiddio ysgolion yn ardal Llangefni a gofyn i swyddogion edrych o’r newydd ar y materion amrywiol mewn perthynas â moderneiddio ysgolion a’r gofynion dan Gôd Trefniadaeth Ysgolion 2018, ac i adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Gwaith maes o law. Mae’r papur cynnig yn rhan o’r broses hon ac yn asesiad mewnol cychwynnol y gofynnir i’r Pwyllgor Gwaith ei gymeradwyo fel sail i ymgynghoriad statudol. Conglfaen y weledigaeth ar gyfer moderneiddio ysgolion yw dyfodol plant yr Ynys a phrif amcan y rhaglen yw creu’r amgylchedd addysgol orau bosib i ganiatáu  i athrawon a disgyblion lwyddo, a thrwy hynny hyrwyddo safonau uchel. Gall newid fod yn anodd, a hyd yma mae gweithredu’r rhaglen moderneiddio ysgolion wedi bod yn heriol ar brydiau, ac er ei fod wedi golygu cau rhai ysgolion cynradd ar y naill law, ar y llaw arall mae wedi arwain at fuddsoddiad sylweddol o £22m mewn addysg ar yr Ynys drwy greu tair ysgol newydd ar gyfer cenhedlaeth heddiw a chenedlaethau’r dyfodol. Wrth amlinellu’r broses a’r amserlen i’w dilyn ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus pe cymeradwyid y papur cynnig, anogodd yr Aelod Portffolio yr holl randdeiliaid a phawb sydd â diddordeb i gymryd rhan ac i gyflwyno eu safbwyntiau er mwyn sicrhau bod yr ymgynghoriad mor ystyrlon â phosib.

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y papur cynnig i’r Pwyllgor Gwaith, gan amlinellu ei gynnwys, a chadarnhaodd y derbyniwyd cyngor cyfreithiol arno, mewn perthynas â’r broses a disgwyliadau’r Côd Trefniadaeth Ysgolion 2018. Amlinellodd yrwyr allweddol ar gyfer newid y Strategaeth Moderneiddio Ysgolion a’r meini prawf y mae’n rhaid eu bodloni pan gymhwysir y gyrwyr hynny i’r ddarpariaeth addysg yn ardal Llangefni. Dywedodd y rhoddwyd ystyriaeth i un ar ddeg opsiwn/opsiwn amgen rhesymol ar gyfer ardal Llangefni, sydd yn cynnwys Ysgol Gyfun Llangefni, Ysgol Bodffordd, Ysgol Corn Hir, Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn. Daeth dadansoddiad manwl o’r holl opsiynau amgen rhesymol i’r casgliad nad oes yr un datrysiad hyfyw ar gyfer ardal Llangefni gyfan  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2