Mater - cyfarfodydd

Cofnodion

Cyfarfod: 08/01/2020 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 3)

3 Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 168 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr, 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr, 2019 fel rhai cywir.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr, 2019 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

Yn codi o’r cofnodion -

 

Siaradodd y Cynghorydd Bryan Owen ar ran y Cynghorydd Peter Rogers nad oedd wedi gallu mynychu'r cyfarfod uchod fel Aelod Lleol ar gyfer cais 12.16 gan ei fod yn gwella ar ôl cael llawdriniaeth ar ei ben-glin, i gyfleu siom y Cynghorydd Rogers nad oedd y penderfyniad ar y cais wedi'i ohirio fel y gofynnodd er mwyn rhoi cyfle iddo annerch y Pwyllgor yn y Flwyddyn Newydd i ddarparu rhagor o wybodaeth mewn perthynas â'r cynnig.

 

Nododd y Pwyllgor sylwadau'r Cynghorydd Rogers ar y mater.