6 Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio PDF 281 KB
6.1 19C1231 – Stâd Cae Rhos, Ffordd Porthdafarch, Caergybi
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
6.1 19C1231 - Cais amlinellol ar gyfer codi 32 annedd marchnad a 4 annedd fforddiadwy, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau a cherddwyr, darparu man chwarae a mannau agored ynghyd â manylion llawn y fynedfa a’r gosodiad ar dir ger Cae Rhos Estate, Ffordd Porthdafach, Caergybi.
Penderfynwyd cynnal ymweliad safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a nodwyd.
Cofnodion:
6.1 19C1231 - Cais amlinellol ar gyfer codi 32 o anheddau marchnad a 4 annedd fforddiadwy, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau a cherddwyr, darparu man chwarae a llecynnau agored ynghyd â manylion llawn ynghylch mynediad a gosodiad ar dir ger Stad Cae Rhos, Ffordd Porthdafarch, Caergybi.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod materion priffyrdd ac ecolegol mewn perthynas â'r cais yn cael sylw ar adeg ysgrifennu'r adroddiad. Yng ngoleuni'r pryderon priffyrdd a godwyd gan yr Aelodau Lleol, mae Swyddogion o'r farn y byddai o fantais i'r Pwyllgor weld safle'r cais a'r rhwydwaith priffyrdd o'i amgylch cyn iddo ystyried y cais.
Penderfynwyd ymweld â’r safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a nodwyd.