Mater - cyfarfodydd

Ceisiadau Economaidd

Cyfarfod: 08/01/2020 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 8)

8 Ceisiadau Economaidd pdf eicon PDF 342 KB

8.1  DIS/2019/114 – Stâd Diwydiannol Bryn Cefni, Llangefni

 

8.2  RM/2019/11 – Stâd Diwydiannol Bryn Cefni, Llangefni

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

8.1 DIS/2019/114 - Cais i ryddhau amodau (06) (Gwaith archeolegol) (08) (Manylion goleuadau) (10) (Manylion traenio) o ganiatâd cynllunio 34LPA1034/CC/ECON ar dir yn Stad Diwydiannol Bryn Cefn, Llangefni.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar dderbyn caniatâd fod y manylion draenio yn dderbyniol.

 

8.2 DRM/2019/11 - RM/2019/11 - Cais am faterion a gadwyd yn ôl ar gyfer codi 7 uned busnes ynghyd a creu mynedfa i gerbydau a ddatblygiadau cysylltiedig ar dir yn Ystâd Ddiwydiannol Bryn Cefni, Llangefni.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi’u cynnwys yn hynny.

 

Cofnodion:

8.1       DIS/2019/114 – Cais i ddileu amodau (06) (Gwaith archeolegol), (08) (Manylion goleuo), (10) (Manylion draenio) o ganiatâd cynllunio 34LPA1034 / CC / ECON ar dir ym Mharc Diwydiannol Bryn Cefni, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod yn gais a wnaed gan y Cyngor Sir.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod cais amlinellol cyfeirnod 34LPA1034 / CC / ECON wedi'i gymeradwyo fel estyniad i'r parc busnes cyfredol ym mis Mehefin, 2017 ar gyfer 7 uned at ddefnydd busnes cyffredinol (Dosbarth B1), defnydd diwydiannol cyffredinol (Dosbarth B2), defnydd warysau a dosbarthu (Dosbarth B8). Er mwyn cwrdd ag amodau’r caniatâd, mae manylion bellach wedi'u cyflwyno mewn perthynas ag archeoleg, goleuadau a draenio dŵr wyneb; ystyrir bod y manylion mewn perthynas ag archeoleg a goleuadau yn dderbyniol. Derbyniwyd manylion draenio diwygiedig ers hynny ac er yr ystyrir eu bod yn dderbyniol mewn egwyddor, maent yn dal i gael sylw. Argymhelliad y Swyddog felly yw y gellir dileu’r amodau os cadarnheir bod y manylion draenio yn dderbyniol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, ac eiliwyd ef gan y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar dderbyn cadarnhad bod y manylion draenio yn dderbyniol.

 

8.2       DRM/2019/11 – Cais materion a gadwyd yn ôl i godi 7 uned fusnes ynghyd ag adeiladu mynedfa i gerbydau a datblygiad cysylltiedig ar dir ym Mharc Diwydiannol Bryn Cefni, Llangefni

 

Adroddwyd ar y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd iddo gael ei gyflwyno ar ran y Cyngor Sir.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y bydd safle'r cais wedi'i leoli ar dri darn o dir ar wahân sy'n cael eu croesi gan ffordd gyswllt Llangefni. Yn unol â'r cais amlinellol a gymeradwywyd ym mis Mehefin 2017, bydd pum uned wedi'u lleoli ar dir i'r gogledd o'r ffordd gyswllt a bydd y ddwy uned arall wedi'u lleoli i'r de. Bydd ffyrdd mewnol yn gwasanaethu pob uned a gellir cael mynediad iddynt o'r ffordd gyswllt. Dywedodd y Swyddog, o ran cynllun, graddfa, golwg a deunyddiau, fod yr unedau'n adlewyrchu adeiladau eraill yn yr ardal ac o gofio’r gwaith tirlunio arfaethedig fel y disgrifir ef yn yr adroddiad, ystyrir y bydd y cynnig yn cydweddu â'r ardal gyfagos. Mae'r Gwasanaeth Priffyrdd yn fodlon â'r trefniadau mynediad ac ers hynny mae'r Cyngor Tref wedi cadarnhau ei fod yn cefnogi'r cais. Yr argymhelliad felly yw cymeradwyo'r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen, ac eiliwyd ef gan y Cynghorydd Vaughan Hughes, y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a chyda’r  amodau a gynhwysir ynddo.