Mater - cyfarfodydd

Development Proposals Submitted by Councillors and Officers

Cyfarfod: 08/01/2020 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 11)

11 Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 314 KB

11.1  HHP/2019/287 – 12 Stryd Wesley, Bodedern

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

11.1 HHP/2019/287 Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn 12 Wesley Street, Bodedern.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

Cofnodion:

11.1    HHP/2019/287 – Cais llawn am addasiadau ac estyniadau yn 12 Stryd Wesley, Bodedern

 

Adroddwyd ar y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i Aelod Etholedig o Gyngor Sir Ynys Môn.

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu yr ystyrir bod maint a dyluniad y cynnig fel y cafodd ei gyflwyno yn dderbyniol yn ei amgylchedd ac na fydd yn cael effaith annerbyniol ar fwynderau eiddo cyfagos. Felly, argymhellir cymeradwyo'r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes, ac eiliwyd ef gan y Cynghorydd John Griffith, y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn ddarostyngedig i'r amodau a gynhwysir ynddo.