Mater - cyfarfodydd

Gweddill y Ceisiadau

Cyfarfod: 08/01/2020 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 12)

12 Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 1 MB

12.1  FPL/2019/300 – 15/16 Coedwig Terrace, Penmon

 

12.2  DEM/2019/17 – Ysgol Parch. Thomas Ellis, Ffordd Maes Hyfryd, Caergybi

 

12.3  DEM/2019/18 – Llyfrgell Caergybi, Stryd Newry, Caergybi

 

12.4  DEM/2019/19 – Ysgol Gynradd y Parc, Maes Yr Haf, Caergybi

 

12.5  22C197E/VAR – Tan y Coed, Biwmares

 

12.6  FPL/2019/258 – Beaumaris Social Club, Steeple Lane, Biwmares

 

12.7  FPL/2019/299 – Ysgol Y Tywyn, Ffordd Minffordd, Caergeiliog

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

12.1 FPL/2019/300 - Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu ynghyd a creu man parcio newydd yn 15/16 Coedwig Terrace, Penmon.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2 DEM/2019/17 – Cais i benderfynu cymeradwyaeth blaenorol i ddymchwel yr hen Ysgol Parch Thomas Ellis, Maes Hyfryd Road, Caergybi.

 

Penderfynwyd bod cymeradwyaeth blaenorol yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn cael ei roi yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig a hefyd yn amodol ar dderbyn Cynllun Rheoli amgylchedd Dymchwel (DEMP) a Chynllun Rheoli Traffig Dymchwel (DTEMP).

 

12.3 DEM/2019/18 – Cais i benderfynu cymeradwyaeth blaenorol i ddymchwel yr hen Lyfrgell Caergybi, Stryd Newry, Caergybi.

 

Penderfynwyd bod cymeradwyaeth blaenorol yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn cael ei roi yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig a hefyd yn amodol ar dderbyn Cynllun Rheoli amgylchedd Dymchwel (DEMP) a Chynllun Rheoli Traffig Dymchwel (DTEMP), cadarnhad o’r cynigion adfer a chadw’r coed sydd ger y safle.

 

12.4 DEM/2019/19 - Cais i benderfynu Cymeradwyaeth blaenorol am dymchwel arfaethedig i Ygol Gynradd y Parc, Maes Yr Haf, Caergybi.

 

Penderfynwyd bod cymeradwyaeth blaenorol yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn cael ei roi yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig a hefyd yn amodol ar dderbyn Cynllun Rheoli amgylchedd Dymchwel (DEMP) a Chynllun Rheoli Traffig Dymchwel (DTEMP), cadarnhad o’r cynigion adfer.

 

12.5 22C197E/VAR - Cais dan Adran 73 i amrywio amod (01) er mwyn ymestyn yr amser a ganiateir ar gyfer cychwyn y gwaith ynghyd â chyflwyno manylion i ollwng amodau 05 (deunyddiau y bwriedir eu defnyddio) 07 (cynllun tirlunio) 09 (lefelau’r slab) 10 (archeoleg) 12 (cynllun draenio) 14 (y modd y bwriedir trin y ffiniau)15 (arwynebeddau caled) a 17 (goleuadau allanol) o gais cynllunio cyfeirnod 22C197B (Codi 21 o gabanau pren ar gyfer eu defnyddio i bwrpas gwyliau) yn Tan y Coed, Biwmares.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig ynghyd ag amod ychwanegol mewn perthynas â mannau pasio, cytundeb adran 106, ac yn amodol hefyd ar dderbyn sylwadau gan Wasanaethau Cynllunio Archeolegol Gwynedd mewn perthynas â’r Cynllun Archeolegol.

 

12.6 FPL/2019/258 - Cais llawn ar gyfer dymchwel adeilad presennol ynghyd a chodi chwech fflat un ystafell wely yn ei le yn Nghlwb Cymdeithasol Biwmares, Steeple Lane, Biwmares.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig

 

12.7 FPL/2019/299 - Cais llawn ar gyfer codi ystafell ddosbarth symudol sydd yn cynnwys creu maes parcio a ardal chwarae yn Ysgol Y Tywyn, Ffordd Minffordd, Caergeiliog.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y  ...  view the full Penderfyniad text for item 12

Cofnodion:

12.1    FPL/2019/300 – Cais llawn am addasiadau ac estyniadau ynghyd â chreu man parcio newydd yn 15/16 Coedwig Terrace, Penmon

 

Adroddwyd ar y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais gan Wasanaeth Tai'r Cyngor ac mae ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai cynnig yw hwn i ddymchwel yr estyniadau unllawr yng nghefn rhifau 15 ac 16 Coedwig Terrace, ynghyd â chodi estyniadau deulawr yn eu lle yng nghefn y ddau eiddo. Mae'r safle o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Arfordir Ynys Môn. Bydd cynllun mewnol y ddau eiddo yn cael ei newid i wneud gwell defnydd o'r gofod ac i ddarparu annedd dwy ystafell wely yr un. O dan y cynllun, bydd yr holl agweddau ar y gorffeniadau allanol yn cael eu newid am rai modern sy'n golygu y bydd y datblygiad arfaethedig yn adlewyrchiad gwell o sut mae’r stryd yn edrych ac yn integreiddio’n well â’r stryd oherwydd bod y rhan fwyaf ohoni eisoes wedi'i huwchraddio i ddeunyddiau modern. Nid ystyrir y bydd y cynllun yn arwain at unrhyw effaith annerbyniol ar fwynderau deiliaid eiddo cyfagos. Ers hynny mae'r Gwasanaeth Priffyrdd wedi cadarnhau ei fod yn fodlon â'r cynnig yn ddarostyngedig i amodau safonol sy'n ychwanegol at y rhai a nodir yn yr adroddiad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Dafydd Roberts y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau a gynhwysir ynddo ac amodau safonol ychwanegol mewn perthynas â phriffyrdd.

 

12.2    DEM/2019/17 – Cais i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel yr hen Ysgol Parch.Thomas Ellis, Ffordd Maes Hyfryd, Caergybi

 

Adroddwyd ar y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion fel y cafodd ei gyflwyno gan y Cyngor Sir ac mae ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu, o dan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995, nad oes angen caniatâd cynllunio i ddymchwel adeiladau ar yr amod bod y datblygwr yn gwneud cais yn gyntaf i'r Awdurdod Cynllunio Lleol i gadarnhau a oes angen ei gymeradwyaeth ymlaen llaw ar gyfer y dull dymchwel ac unrhyw waith adfer ar y safle. Mae dau o'r Aelodau Lleol wedi cadarnhau nad oes ganddynt wrthwynebiadau i'r cynnig; nid oes gan y Cyngor Tref unrhyw wrthwynebiadau ychwaith ar yr amod bod y cae chwarae yn cael ei gadw at ddefnydd y gymuned a bod y safle'n cael ei ystyried i'w ddefnyddio yn y dyfodol fel canolfan feddygol newydd. Fodd bynnag, o dan ddarpariaethau'r Gorchymyn, dim ond y dull o ddymchwel ac adfer y safle y gellir eu hystyried, nid yw cadw'r safle a'r defnydd a wneir ohono yn y dyfodol yn ystyriaethau wrth benderfynu ar y cais. Yn unol â'r broses hon, rhoddwyd cyfnod o 28 diwrnod i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ystyried y gwaith dymchwel arfaethedig a chadarnhaodd yn ystod y cyfnod hwnnw y byddai angen cymeradwyaeth ymlaen llaw er mwyn cael Cynllun  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12