Mater - cyfarfodydd

Materion Eraill

Cyfarfod: 08/01/2020 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 13)

13 Materion Eraill pdf eicon PDF 248 KB

13.1  42C188E/ENF – 4 Tai Hirion, Rhoscefnhir

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

13.1 42C188E/ENF - Cais ôl-weithredol ar gyfer codi uned llety gwyliau newydd yn 4 Tai Hirion, Rhoscefnhir.

 

Penderfynwyd cadarnhau y bydd amodau’r Cytundeb Adran 106 yn golygu’r uned wyliau sydd wedi’i lleoli yn 4 Tai Hirion a’r Gwely a Brecwast a’r busnes cynhyrchu caws yn Rhyd y Delyn.  

Cofnodion:

13.1    42C188E/ENF – Cais ôl-weithredol ar gyfer codi uned wyliau newydd yn 4 Tai Hirion, Rhoscefnhir

 

Yn ei gyfarfod ar 7 Tachwedd, 2018, penderfynodd y Pwyllgor gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog yn amodol ar lofnodi cytundeb Adran 106. Adroddir ar y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion er mwyn cadarnhau telerau'r cytundeb Adran 106.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor ar 7 Tachwedd, 2018 yn nodiPenderfynwyd cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog yn amodol ar gytundeb adran 106 i ymgorffori’r gweithgareddau yn 4 Tai Hirion a’r gweithgareddau yn Rhyd y Delyn yn un uned fusnes a chydag amodau i’w penderfynu gan y Swyddogion.” Yn ei gyfarfod ym mis Hydref, 2018 roedd y Pwyllgor wedi trafod ymgorffori'r holl fusnesau yn Rhyd y Delyn a Tai Hirion gyda'i gilydd, gan gynnwys y safle carafanau teithiol a leolir yn Tai Hirion; dyma sut roedd Swyddogion wedi dehongli dymuniadau'r Pwyllgor wrth ddrafftio cytundeb Adran 106. Fodd bynnag, mae llythyr dyddiedig 8 Ionawr, 2020 gan asiant yr ymgeisydd yn nodi bod y cofnodion yn glir mai dymuniadau'r Pwyllgor oedd na ddylai'r cytundeb Adran 106 ond gynnwys yr uned wyliau yn 4 Tai Hirion, sef testun y cais, a hefyd y busnesau yn Rhyd y Delyn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Owain Jones ei fod, wrth gynnig y cytundeb Adran 106 yn wreiddiol, wedi bwriadu iddo gynnwys y busnesau yn 4 Tai Hirion a Rhyd y Delyn ond nid y safle carafanau teithiol gan mai’r mab oedd perchennog y safle hwnnw. ‘Roedd o’r farn  fod y cofnodion yn adlewyrchiad cywir o'r hyn a benderfynwyd a chynigiodd y dylid eu hailgadarnhau felly. Eiliodd y Cynghorydd Eric Jones y cynnig.

 

Penderfynwyd cadarnhau y bydd amodau’r Cytundeb Adran 106 yn golygu’r uned wyliau sydd wedi’i lleoli yn 4 Tai Hirion a’r busnesau Gwely a Brecwast a chynhyrchu caws yn Rhyd y Delyn.