4 Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith PDF 796 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Mawrth hyd at Hydref, 2020 gyda’r newidiadau ychwanegol a amlinellwyd yn y cyfarfod.
Cofnodion:
Cyflwynwyd i’w ystyried, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod rhwng mis Chwefror a mis Medi, 2020, a nodwyd y newidiadau canlynol -
• Eitem newydd
• Eitem 18 – y Protocol Siarad Cyhoeddus ar gyfer y Pwyllgorau Sgriwtini (ar gyfer cyfarfod 23 Mawrth, 2020)
• Eitemau newydd i'w cynnwys yn y Flaen Raglen Waith
• Arferion Rheoli'r Trysorlys (ar gyfer cyfarfod 2 Mawrth, 2020)
• Gorchymyn Prynu Gorfodol Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol Biwmares (ar gyfer cyfarfod 23 Mawrth, 2020)
• Cyllidebau ar y cyd Gwasanaethau Anabledd Dysgu
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Mawrth hyd at Hydref, 2020 gyda’r newidiadau ychwanegol a amlinellwyd yn y cyfarfod.