Mater - cyfarfodydd

Schools Modernisation Programme - Llangefni Area: Ysgol y Graig and Ysgol Talwrn

Cyfarfod: 20/01/2020 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 3)

3 Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Ardal Llangefni : Ysgol Y Graig ac Ysgol Talwrn pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ar Raglen Moderneiddion Ysgolion y Cyngor Sir mewn perthynas ag Ysgol Y Graig ac Ysgol Talwrn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cymeradwyo’r cynnig igynyddu capasiti Ysgol Y Graig i gymryd disgyblion Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd Ysgol Y Graig ac Ysgol Talwrn” ac awdurdodi Swyddogion i gynnal ymgynghoriad statudol ar y cynnig.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc yn ymgorffori papur cynnig ar foderneiddio ysgolion yn ardal Llangefni mewn perthynas ag Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig. Roedd yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i gynnal ymgynghoriad statudol ar y cynnig i “gynyddu capasiti Ysgol Y Graig i gymryd plant Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd Ysgol Talwrn ac Ysgol Y Graig”.

 

Cyflwynodd y Deilydd Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid yr adroddiad a oedd yn amlinellu’r cynnig i foderneiddio ysgolion yn ardal Llangefni, ac a oedd yn ymwneud yn benodol ag Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig. Fel y gwnaeth dan eitem 2, cyfeiriodd at gefndir y mater, pan benderfynodd y Cyngor, drwy’r Prif Weithredwr a’r Pwyllgor Gwaith, i ddiddymu’r penderfyniadau gwreiddiol mewn perthynas â moderneiddio ysgolion yn ardal Llangefni, gan ofyn i Swyddogion edrych o’r newydd ar y gwahanol faterion mewn perthynas â hynny a gofynion Côd Trefniadaeth Ysgolion 2018, ac adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Gwaith maes o law. Mae’r papur cynnig yn rhan o’r broses hon ac yn asesiad mewnol cychwynnol y gofynnir i’r Pwyllgor Gwaith ei gymeradwyo fel sail i ymgynghoriad statudol. Cyfeiriodd at weledigaeth yr Awdurdod a ysgogodd ei raglen foderneiddio ysgolion, a’i phrif amcan wrth geisio creu’r amgylchedd addysgol orau posib i ganiatáu i athrawon a disgyblion lwyddo, a thrwy hynny hyrwyddo safonau uchel. Wrth wneud hynny, roedd yn derbyn y gall newid fod yn anodd a hyd yma mae gweithredu’r rhaglen moderneiddio ysgolion wedi bod yn heriol ar brydiau, a’i fod wedi golygu cau rhai ysgolion cynradd ar y naill law ond, ar y llaw arall, mae wedi arwain at fuddsoddiad sylweddol o £22m mewn addysg ar yr Ynys drwy greu tair ysgol newydd ar gyfer cenhedlaeth heddiw a chenedlaethau’r dyfodol. Wrth amlinellu’r broses a’r amserlen i’w dilyn ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus pe cymeradwyid y papur cynnig, anogodd yr Aelod Portffolio yr holl randdeiliaid a phawb sydd â diddordeb i gymryd rhan ac i gyflwyno eu safbwyntiau er mwyn sicrhau bod yr ymgynghoriad mor ystyrlon â phosib.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl ifanc bod y cyflwyniad cyffredinol a roddodd dan eitem 2 ynghylch y prif yrwyr ar gyfer newid a’r meini prawf ar gyfer darpariaeth addysg yng nghyd-destun ardal ehangach Llangefni yn berthnasol yn yr achos hwn hefyd a daeth dadansoddiad o’r holl opsiynau amgen rhesymol ar gyfer y ddarpariaeth addysg yn ardal Llangefni (adran 5 o’r papur cynnig) i’r casgliad nad oes datrysiad hyfyw ar gyfer ardal Llangefni gyfan. O’r herwydd, ac oherwydd eu hagosatrwydd daearyddol, canolbwyntiwyd ar ganfod datrysiad posibl ar wahân ar gyfer dalgylchoedd Ysgol Y Graig ac Ysgol Talwrn a datrysiad ar wahân a dalgylchoedd Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir (y rhoddir sylw iddo dan eitem 2). Amlinellodd y Swyddog yr heriau allweddol sy’n wynebu Ysgol Y Graig ac Ysgol Talwrn (adran 6) a dywedodd bod deg opsiwn amgen rhesymol (gan gynnwys y cynnig) ar gyfer Ysgol Talwrn a naw opsiwn amgen rhesymol  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3