Mater - cyfarfodydd

Applications that will be Deferred

Cyfarfod: 05/02/2020 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 6)

6 Ceisiadau a fydd yn cael eu gohirio pdf eicon PDF 361 KB

6.1  19C1231 – Stad Cae Rhos, Ffordd Porthdafarch, Caergybi

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

6.1  19C1231 – Cais amlinellol ar gyfer codi 32 annedd marchnad a 4 annedd fforddiadwy, adeiladu mynedfa newydd i gerdydau a cherddwyr, darparu man chwarae a mannau agored ynghyd â manylion llawn y fynedfa a’r gosodiad ar dir ger Stad Cae Rhos, Ffordd Porthdafarch, Caergybi

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol â’r rhesymau a nodwyd ac argymhelliad y Swyddog.

 

Cofnodion:

 

6.1  19C1231 - Cais amlinellol ar gyfer codi 32 annedd marchnad a 4 annedd fforddiadwy, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau a cherddwyr, darparu man chwarae a mannau agored ynghyd â manylion llawn y fynedfa a’r gosodiad ar dir ger Stad Cae Rhos Estate, Ffordd Porthdafach, Caergybi.

 

Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod wedi’i alw mewn i’r Pwyllgor gan Aelodau Lleol. Yn ei gyfarfod ar 8 Ionawr 2020, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â safle’r cais cyn gwneud penderfyniad. Ymwelwyd â’r safle ar 22 Ionawr 2020.  

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y safle wedi’i adnabod at ddibenion preswyl ond fod gan yr Awdurdod Priffyrdd bryderon sylweddol o ran sefyllfa israddol bresennol y briffordd gyhoeddus sy’n arwain at y safle.

 

Adroddodd yr Uwch Beiriannydd (Traffig a Pharcio) bod Asesiad Trafnidiaeth wedi ei gomisiynu gan yr Awdurdod Priffyrdd mewn perthynas â’r safle hwn a fydd yn cael ei gynnal dros gyfnod o 24 awr er mwyn gweld prysurdeb y traffig yn yr ardal; mae canlyniadau’r Asesiad Traffig yn dal i gael eu disgwyl amdanynt. Cyflwynwyd Asesiad Trafnidiaeth fel rhan o’r cais gan yr ymgeisydd ond cafodd ei ymgymryd ag ef yn ystod symudiadau traffig yn gynnar yn y bore ac yn hwyr yn y prynhawn. 

 

Yr argymhelliad i’r Pwyllgor oedd i ohirio gwneud penderfyniad ar y cais.   

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol â’r rhesymau a nodwyd ac argymhelliad y Swyddog.