Mater - cyfarfodydd

Departure Applications

Cyfarfod: 05/02/2020 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 10)

10 Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 380 KB

10.1  VAR/2019/84 – Rhos Bothan, Llanddaniel

10.2  VAR/2019/87 -  Isfryn, Glanrafon

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

10.1  VAR/2019/84 – Cais o dan Adran 73a i ddiwygio amod (02) (Dim gwaith i’w wneud adeg tymor nythu), amod (03) (Dim datblygiad tan bod mesurau lliniaru wedi cael eu cyflwyno a’u cymeradwyo), amod (04) (Dim datblygiad tan bod datganiad dull wedi wedi cael ei gyflwyno) ac amod (07) (Dim datblygiad tan bod cofnod ffotograffig wedi cael ei gyflwyno) o ganiatâd Cynllunio 21C169 yn Rhos Bothan, Llanddaniel

 

PENERFYNWYD caniatíau cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.2  VAR/2019/87 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (12) (Cynlluniau a gymeradwyd) o caniatâd Cynllunio rhif 35C237D/VAR (Codi amod) er mwyn diwygior dyluniad yn Isfryn, Glanrafon

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig ac y dylid cynnwys amod ychwanegol sy’n gwahardd gweithrediad y caniatâd blaenorol a mabwysiadu opsiwn sgrinio.

 

 

Cofnodion:

10.1  VAR/2019/84 - Cais o dan Adran 73a i ddiwygio amod (02) (Dim gwaith             i'w wneud adeg tymor nythu), amod (03) (Dim datblygiad tan bod        mesurau lliniaru wedi cael eu cyflwyno a'u cymeradwyo) , amod          (04)(Dim datblygiad tan bod datganiad dull wedi cael ei gyflwyno) ac             amod (07) (Dim datblygiad tan bod cofnod ffotograffig wedi cael ei gyflwyno) o ganiatâd cynllunio 21C169 yn Rhos Bothan, Llanddaniel,    Gaerwen.

 

          Cyfeiriwyd y cais at y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn    wyriad oddi wrth y cynllun datblygu y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn bwriadu ei ganiatáu.

 

          Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod gan y cais ganiatâd sydd eisoes yn bodoli er mwyn addasu adeilad presennol sydd wedi’i leoli mewn lleoliad cefn gwlad i fod yn un annedd ond nid yw amodau caniatâd y cais            wedi cael eu glynu atynt a cais yw hwn er mwyn ceisio caniatâd o dan yr amodau perthnasol sydd wedi eu nodi yn yr adroddiad. Dywedodd fod y datblygwr wedi cyflwyno manylion lliniaru er mwyn bodloni mesurau ecolegol rhywogaethau a warchodir ac mae cofnod ffotograffig o’r adeilad wedi’i gyflwyno er mwyn bodloni gofynion archeolegol. Fodd bynnag, mae’r Swyddog Ecoleg wedi gofyn am fanylion pellach o ran gwarchod rhywogaethau ar y safle. Adroddodd y Swyddog ymhellach ei bod yn ymddangos fod y fynedfa i’r safle i weld wedi ei hadeiladu yn unol â chaniatâd blaenorol y cais ond disgwylir sylwadau’r Awdurdod Priffyrdd mewn perthynas â manylion y fynedfa. Roedd yr argymhelliad yn un o ganiatáu yn amodol ar dderbyn manylion boddhaol.           

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric W Jones. 

 

          PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.2  VAR/2019/87 - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (12) (Cynlluniau a gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio rhif 35C237D/VAR (Codi annedd) er mwyn diwygio’r dyluniad yn Isfryn, Glanrafon.

 

Cyfeiriwyd y cais at y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr argymhelliad yn un o ganiatáu, sy’n groes i Bolisi TAI 6 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.  

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod ardal Glanrafon bellach yn cael ei hadnabod fel Clwstwr o dan ddarpariaethau Polisi TAI 6 o fewn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, sydd ddim yn cefnogi’r ddarpariaeth o dai marchnad agored. Fodd bynnag, mae gan y safle ganiatâd cynllunio eisoes a’r cais gerbron y Pwyllgor hwn yw i newid dyluniad yr annedd ac mae’r cais wedi lleihau o ran maint. Ystyrir y cais yn dderbyniol o fewn ei gyd-destun ac o fewn yr ardal AHNE. Mae cais sgrinio wedi ei gyflwyno ar gyfer ei asesu. Dywedodd y Swyddog hefyd bod angen cysylltu amod ychwanegol â’r cais sy’n gwahardd gweithrediad y caniatâd blaenorol.    

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric W Jones. 

 

          PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10