11 Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion PDF 471 KB
11.1 HHP/2019/295 – Kirkland, Ffordd Gorad, Y Fali
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
11.1 HHP/2019/295 – Cais llawn ar gyfer addau ac ehangu yn Kirkland, Ffordd Gorad, Y Fali
PENDEERFYNWYD cymeradwyo’r cais a rhoi’r grym i Swyddogion weithredu ar ôl i’r cyfnod o ymgynghori statudol cyhoeddus ddod i ben.
Cofnodion:
11.1 HHP/2019/295 - Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn Kirkland, Ffordd Gorad, Y Fali.
Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i Swyddog perthnasol. Yn unol â chyfansoddiad y Cyngor, mae Swyddog Monitro’r Cyngor wedi craffu ar y cais.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn un ar gyfer estyniad un llawr ar hyd ochr yr eiddo gyda tho ar oledd a phortsh i’r drychiad blaen. Dim ond y portsh a ddangosir ar y cynlluniau sydd angen caniatâd cynllunio gan fod y drychiad ochr yn ddatblygiad a ganiateir, nad yw angen caniatâd cynllunio. Nododd fod y Cyngor Cymuned lleol bellach wedi nodi nad oes ganddynt unrhyw wrthwynebiad i’r cais. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio hefyd nad yw’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus yn dod i ben tan 5 Chwefror, 2020 a gofynnodd am i’r Swyddogion gael yr hawl i weithredu yn dilyn y cyfnod ymgynghori statudol os nad oedd unrhyw sylwadau wedi eu derbyn.
Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais a rhoi’r grym i Swyddogion weithredu ar ôl i’r cyfnod o ymgynghori statudol cyhoeddus ddod i ben.