12 Gweddill y Ceisiadau PDF 1 MB
12.1 LBC/2019/45 – Mynwent Isaf, Sant Cybi, Ffordd Victoria, Caergybi
12.2 OP/2019/16 – Beecroft, Ffordd yr Orsaf, Y Fali
12.3 FPL/2019/253 – Penfor, Porth Swtan
12.4 FPL/2019/275 – 14 Maes William Williams, Amlwch
12.5 FPL/2019/278 – Ysgol Gynradd Llanfachraeth
12.6 FPL/2019/337 – Stad Ddiwydiannol Mona, Gwalchmai
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
12.1 LBC/2019/45 - Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gwaith i giât yr eglwys ym Mynwent Isaf St Cybi's Lower Church Yard, Ffordd Victoria Road, Caergybi.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 OP/2019/16 - Cais amlinellol ar gyfer dymchwel annedd presennol ynghyd â chodi 4 annedd yn ei le (un fforddiadwy) sydd yn cynnwys manylion llawn am y fynedfa a'r gosodiad yn Beecroft, Ffordd yr Orsaf/Station Road, Y Fali.
Adroddwyd fod y cais hwn wedi ei dynnu’n ôl.
12.3 FPL/2019/253 - Cais llawn ar gyfer trosi adeiladau allanol i ddwy uned wyliau sydd yn cynnwys addasu ac ehangu ynghyd â gosod pecyn trin carthffosiaeth yn Penfor, Porth Swtan.
PENDERFYNWYD ymweld â’r safle ar gais yr Aelod Lleol ac yn unol â’r rhesymau a roddwyd.
12.4 FPL/2019/275 - Cais llawn ar gyfer codi 4 annedd newydd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir ger 14 Maes William Williams, Amlwch.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ac amodau ychwanegol mewn perthynas â chynnal a chadw ffordd y stad yn y dyfodol a’r ddarpariaeth o dai fforddiadwy.
12.5 FPL/2019/278 Cais llawn ar gyfer dymchwel adeiladau ysgol presennol a chodi 8 annedd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir yn Ysgol Gynradd Llanfachraeth, Llanfachraeth, Caergybi
PENDERFYNWYD:-
· cymeradwyo’r cais a rhoi’r pŵer i Swyddogion weithredu ar ôl i’r cyfnod ymgynghori statudol ddod i ben;
· bod amodau ychwanegol yn cael eu cysylltu i’r caniatâd o’r cais o ran y dylid sicrhau arolwg ffotograffig o’r adeilad a chyflwr y tir wedi’i halogi.
12.6 FPL/2019/337 - Cais ôl-weithredol ar gyfer creu lôn mynediad yn Stad Diwydiannol Mona, Gwalchmai.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais a rhoi’r grym i Swyddogion weithredu ar ôl i’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus statudol ddod i ben.
Cofnodion:
12.1 LBC/2019/45 - Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gwaith i giât yr eglwys ym Mynwent Isaf St Cybi's Lower Church Yard, Ffordd Victoria Road, Caergybi.
Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais wedi’i gyflwyno gan y Cyngor ar dir preifat.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais hwn yn gais am ganiatâd
adeilad rhestredig i symud y giatiau haearn bwrw i weithdy arbenigol am
gyfnod dros dro er mwyn trin rhwd ac atgyweirio ac adfer nodweddion.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 OP/2019/16 - Cais amlinellol ar gyfer dymchwel annedd presennol ynghyd â chodi 4 annedd yn ei le (un fforddiadwy) sydd yn cynnwys manylion llawn am y fynedfa a'r gosodiad yn Beecroft, Ffordd yr Orsaf/Station Road, Y Fali.
Adroddwyd fod y cais hwn wedi ei dynnu’n ôl.
12.3 FPL/2019/253 - Cais llawn ar gyfer trosi adeiladau allanol i ddwy uned wyliau sydd yn cynnwys addasu ac ehangu ynghyd â gosod pecyn trin carthffosiaeth yn Penfor, Porth Swtan.
Cyfeiriwyd y cais hwn at y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Dywedodd y Cynghorydd K P Hughes, gan mai ef oedd wedi cyfeirio’r cais at y Pwyllgor, ei fod yn cynnig y dylid cynnal ymweliad safle er mwyn gadael i Aelodau’r Pwyllgor weld y safle o ganlyniad i bryderon lleol sy’n bodoli mewn perthynas ag edrych drosodd a chyflwr y ffordd tuag at safle’r cais. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.
PENDERFYNWYD ymweld â’r safle ar gais yr Aelod Lleol ac yn unol â’r rhesymau a roddwyd.
12.4 FPL/2019/275 - Cais llawn ar gyfer codi 4 annedd newydd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir ger 14 Maes William Williams, Amlwch.
Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais wedi’i gyflwyno gan yr Awdurdod Lleol ar dir sy’n berchen i’r Cyngor.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y datblygiad arfaethedig yn cynnwys anheddau un llawr sy’n cynnwys dau floc o ddau annedd. Darperir yr holl anheddau â mannau parcio dynodedig a mannau amwynder preifat a gellir cael mynediad i’r safle o ffordd bresennol y Stad. Adroddodd, er ei bod yn cael ei dderbyn fod y cais yn cael ei gyflwyno gan yr Awdurdod Lleol am lety fforddiadwy, bydd angen gosod amodau ychwanegol ar gyfer y ddarpariaeth o dai fforddiadwy ynghyd ag amod am gynnal a chadw ffordd y stad yn y dyfodol.
Cynigiodd y Cynghorydd R O Jones y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric W Jones.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ac amodau ychwanegol mewn perthynas â chynnal a chadw ffordd y stad yn y dyfodol a’r ddarpariaeth o dai fforddiadwy.
12.5 FPL/2019/278 Cais llawn ar gyfer dymchwel adeiladau ysgol presennol a ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12