4 Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith PDF 538 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Rhaglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Ebrill i Dachwedd, 2020 fel y’i chyflwynwyd.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn cynnwys Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Tachwedd, 2020 i gael ei ystyried.
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod y canlynol yn eitemau newydd ar y Flaenraglen Waith yn unol â'r wybodaeth a gyhoeddwyd-
• Eitem 1 – Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 – Polisi (RIPA) (Penderfyniad Deilydd Portffolio Corfforaethol i'w gyhoeddi ym mis Ebrill, 2020)
• Eitem 3 – Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai (ar gyfer cyfarfod 27 Ebrill, 2020 o’r Pwyllgor Gwaith)
• Eitem 11 – Cyflwyno taliadau Galw Gofal – Care Connect ar gyfer Tenantiaid Tai Cyngor (ar gyfer cyfarfod 15 Mehefin, 2020 o’r Pwyllgor Gwaith)
• Eitem 18 – Adroddiad Cynnydd gan y Panel Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol (ar gyfer cyfarfod 28 Medi, 2020 o’r Pwyllgor Gwaith)
• Eitem 20 – Cyllideb 2020/21: cwblhau cynigion y gyllideb ddrafft gychwynnol ar gyfer ymgynghori (ar gyfer cyfarfod 9 Tachwedd, 2020 o’r Pwyllgor Gwaith)
• Eitemau 22-25 – Adroddiadau Monitro Perfformiad ac Ariannol (ar gyfer cyfarfod 30 Tachwedd, 2020 o’r Pwyllgor Gwaith)
• Eitem 26 – Datganiad o Bolisi Trwyddedu (ar gyfer cyfarfod 30 Tachwedd, 2020 o’r Pwyllgor Gwaith).
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Rhaglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Ebrill i Dachwedd, 2020 fel y’i chyflwynwyd.