Mater - cyfarfodydd

Corporate Scorecard - Quarter 3, 2019/20

Cyfarfod: 23/03/2020 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 5)

5 Monitro'r Cerdyn Sgorio - Chwarter 3 2019/20 pdf eicon PDF 953 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd nodi’r meysydd mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli er mwyn sicrhau gwelliannau i’r dyfodol a derbyn y mesurau lliniaru sy’n cael eu hamlinellu yn yr adrdoddiad.

Cofnodion:

Cafodd adroddiad Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid yn cynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 3 2019/20 ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Nododd y Cadeirydd fod Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 3 yn rhoi darlun cadarnhaol o berfformiad, gyda'r rhan fwyaf o'r dangosyddion yn rhai Gwyrdd ac mai dim ond ychydig o feysydd y mae angen rhoi sylw iddynt ar ddiwedd y trydydd chwarter.

 

Cadarnhaodd Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid fod yr adroddiad ar y cyfan yn galonogol ond ei fod hefyd yn dangos yn glir y meysydd penodol hynny nad ydynt yn cyrraedd targedau a'r camau i'w cymryd i wella eu perfformiad yn Chwarter 4. Nodwyd y pwyntiau a godwyd gan y Pwyllgor Sgriwtini mewn perthynas â meysydd sy'n tanberfformio, a rhoddir sylw i hyn wrth symud ymlaen.

 

Adroddwyd yn ôl gan y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, am gyfarfod y Pwyllgor ar 9 Mawrth lle cafodd Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 3 ei archwilio a'i drafod. Roedd y Pwyllgor wedi cydnabod y gwelliannau sy'n cael eu gwneud ar draws nifer o wasanaethau'r Cyngor, gan nodi hefyd fod agweddau ar berfformiad o fewn Gwasanaethau Tai, Cynllunio, Hamdden ac Oedolion yn methu’r targed. Roedd y Pwyllgor wedi nodi ymhellach y meysydd y mae'r uwch dîm arweinyddiaeth yn eu rheoli er mwyn sicrhau gwelliannau i'r dyfodol, ac roedd yn cefnogi'r mesurau lliniaru a gyflwynwyd i wella perfformiad yn y meysydd hynny yr oedd yn eu hargymell i'r Pwyllgor Gwaith. Dywedodd y Cynghorydd  Aled Morris Jones ei fod yn cydnabod bod y Cerdyn Sgorio Corfforaethol bellach wedi cael ei effeithio gan ddigwyddiadau ac y bydd camau i fynd i'r afael â sefyllfa Covid-19, ac ymateb iddi, yn cael blaenoriaeth o reidrwydd dros yr wythnosau nesaf.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Pwyllgor Sgriwtini ar yr adborth a dywedodd fod y Cerdyn Sgorio Corfforaethol yn dangos bod y Cyngor mewn sefyllfa gadarn o ran perfformiad y gwasanaeth, gan ddarparu sylfaen gadarn ar gyfer ymateb i'r sefyllfa anodd sydd ohoni.

 

Penderfynwyd nodi’r meysydd mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli er mwyn sicrhau gwelliannau i’r dyfodol a derbyn y mesurau lliniaru sy’n cael eu hamlinellu yn yr adrdoddiad.